Nid jôc wirion yw hon.
Yr ateb yw – ein fflyd newydd o faniau Atgyweirio Tai!
Rydym wedi cael 76 o faniau a thryciau newydd ar gyfer ein tîm Atgyweirio Tai, a saith tryc ar gyfer ein tîm gofalu ystadau a fydd o gymorth i’n staff wneud gwaith atgyweirio i’n cwsmeriaid ar draws mwy na 11,200 o dai cyngor.
Roedd ein fflyd flaenorol yn gymysgfa o faniau Ford Transit, Fiat Forino a Vauxhall Corsa, ac wedi bod ar y ffordd ers rhai blynyddoedd – ac roedd rhai ohonynt gennym ers dros 11 mlynedd!
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Oherwydd oedran rhai o’r cerbydau yn yr hen fflyd, roeddynt yn torri i lawr yn aml ac roedd yn rhaid i ni ddibynnu ar gerbydau wedi eu hurio’n allanol yn aml er mwyn cyflawni pethau.
Mae llawer o’r gwaith mae’r tîm atgyweirio yn gorfod ei wneud wedi dod yn fwy, yn enwedig wrth weithio mewn eiddo gwag, sy’n golygu bod angen cludiant gwell a mwy dibynadwy arnynt i sicrhau eu bod yn cwrdd targedau.
Cerbydau proffesiynol
Gyda uwch dîm rheoli Tai ac Economi newydd yn ei le, cafwyd cymeradwyaeth i uwchraddio’r fflyd a sicrhau bod holl gerbydau Atgyweirio Tai a cheir Gofalwyr yn fwy dibynadwy, ac o ansawdd safon gwell, mwy proffesiynol.
Y faniau MAN newydd yw’r contract mawr cyntaf yn y sector fasnachol ysgafn i’n cyflenwr lleol newydd AN Richards o Froncysyllte, ac mae’r cerbydau MAN yn newydd i’r farchnad, dim ond ers mis Medi 2017 mae’r cwmni wedi cychwyn cynhyrchu’r cerbydau masnachol ysgafn.
Dywedodd Johanna Cooke, ysgrifennydd AN Richards: “ Fel busnes teuluol, mae AN Richards yn arbennig o falch o fod yn cyflenwi’r cerbydau hyn i wasanaeth atgyweirio tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
“Mae’r contract yn bwysig i ni, ond hefyd i MAN fel y cynhyrchwyr ac rydym yn edrych ymlaen at sicrhau bod y berthynas waith yn llwyddiannus.”
“Bwysig iawn bod gennym fflyd ddibynadwy”
Dywedodd Y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae’n tîm Atgyweirio Tai yn darparu gwasanaeth 24 awr 265 diwrnod y flwyddyn i holl denantiaid y cyngor – boed hynny mewn tai cyngor neu mewn tai gwarchod.
“Mae felly yn bwysig iawn bod gennym fflyd ddibynadwy ar draws ein holl ystadau.
“Rydym am i denantiaid wybod a theimlo eu bod yn cael gwasanaeth proffesiynol da gennym ni. Mae rhan o hynny’n ymwneud â sut rydym yn cyflwyno ein hunain, ac mae’r faniau newydd yma’n ateb y galw hwnnw.
“Hoffwn ddiolch i AN Richards am eu gwaith wrth ddarparu’r fflyd newydd i ni, ac rydw i’n arbennig o falch ein bod wedi gallu cael y cerbydau newydd drwy gwmni lleol.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB