Cynhelir Bwrdd Gweithredol mis Mai ddydd Mawrth ac mae’r rhaglen wedi ei chyhoeddi i bob un ohonom gael golwg sydyn arni.
Mae’r rhaglen yn eithaf llawn gyda 10 o eitemau i’w trafod yn ogystal â’r ymddiheuriadau arferol, datganiadau cysylltiad personol a chofnodion y cyfarfod diwethaf.
“Buddsoddi yn ein tai cyngor”
Ar frig y rhestr y mis yma mae Cynllun y Cyngor 2018-2022, mae’n debyg mai dyma’r cynllun mwyaf pwysig i ni orfod gweithio arno. Mae’n amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol a sut y byddwn yn cadw llygad arno. Mae’n dangos sut y byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein tai cyngor fel eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ac yn gwella cartrefi ein tenantiaid. Mae hefyd yn edrych ar barhau â’r gwelliannau blynyddol rydym wedi bod yn eu gwneud i sicrhau fod pobl ifanc yn mynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant pan eu bod yn gadael yr ysgol. Mae gwella canol y dref hefyd yn agos at frig y rhestr fel y mae cynyddu’r ystod o wasanaethau rydym yn eu darparu ar-lein.
Mae’r ffordd rydym yn rheoli ein harian hefyd ar y rhaglen – a gyda dros £112 miliwn yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau fod ein trefniadau rheoli arian i gyd yn eu lle.
“Cynlluniau Twristiaeth”
Bydd y cyfarfod hefyd yn clywed sut y mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfan – y cynllun sy’n dangos ein cynlluniau twristiaeth – yn bwriadu denu ymwelwyr i’r fwrdeistref sirol i bob un o’n hatyniadau a lleoedd o ddiddordeb.
Un o’n blaenoriaethau fel awdurdod lleol yw helpu mynd i’r afael â thlodi ac mae yna adroddiad a fydd yn edrych sut y byddwn yn parhau i wneud hyn.
Bydd y cyfarfod yn cael ei we-ddarlledu a gallwch wylio a gwrando arno yma o 10am ar 8 Mai.
Gallwch hefyd gael golwg sydyn ar y rhaglen gyfan yma.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI