Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, i ddathlu a chydnabod llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched.
Y thema eleni yw #CydbwyseddErGwell, gyda’r nod o drafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb rhywiol o ran cyflog a chynrychiolaeth.
Wrth i’r digwyddiad byd-eang edrych ar themâu eang o gynhwysiant, tuedd a chydraddoldeb, bydd digon o ddigwyddiadau ar lawr gwlad yn lleol hefyd.
Bydd digon o ddigwyddiadau yn Wrecsam yn ystod y diwrnod, yn cynnwys cyfres o sgyrsiau yng Nghanolfan Menter Wrecsam a Chanolfan Gymdeithasol Stryt y Banc gan ferched sy’n gweithio mewn ystod eang o feysydd, fel rhan o Ŵyl Diwrnod Rhyngwladol y Merched Gogledd Cymru.
Mae digwyddiadau eraill yn ystod y dydd yn cynnwys gweithdy i annog merched i’r maes adeiladu yng nghampws Ffordd y Bers, Coleg Cambria, o 8.45am i 11.30am.
Bydd rhai o’n gwleidyddion hefyd yn cael eu cysgodi gan ferched ifanc drwy’r dydd, i roi syniad iddynt o fywyd gwleidyddol a’r gwaith mae ein cynrychiolwyr lleol yn ei gyflawni fel rhan o’u rôl dydd i ddydd.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb: “Rwy’n falch o weld bod llawer o bethau ymlaen yn Wrecsam ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ac rwy’n argymell yn gryf i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhai o’r sgyrsiau gymryd rhan, a mynychu’r digwyddiadau sydd ar gael.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl ferched ifanc a fydd yn cysgodi rhai o’n gwleidyddion drwy gydol y dydd – rwy’n siŵr y bydd yn agoriad llygad ac yn ymarfer defnyddiol iawn iddynt.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN