Yn yr un modd â threfi eraill ar draws y DU, mae gan Wrecsam gyfle i ymgeisio am statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Mae llawer o gyfleoedd eraill ar y gorwel hefyd, ac mae’n rhaid i Wrecsam lunio cynllun…
Beth fydd angen i’r fwrdeistref sirol ei wneud er mwyn gwneud y mwyaf o’i chryfderau a sicrhau dyfodol llewyrchus?
Dyma pam y mae arnom ni angen eich cymorth chi.
Rhannwch eich syniadau
Mae’r wythnos hon yn nodi dechrau’r ymgyrch i annog pobl leol i rannu eu barn am sut y gall Wrecsam ffynnu fel dinas, yn ogystal â chyfleoedd eraill y gallai Wrecsam fanteisio arnynt.
Gall hwn fod unrhyw beth – o syniadau am ddyfodol manwerthu, neu rôl marchnadoedd mewn trefi a dinasoedd, i sut y gallwn wneud y gorau allan o’n busnesau ân gryfder masnachol, ein hardaloedd treftadaeth allweddol a phopeth rhyngddynt.
Mae’n gyfle i ddweud beth sy’n gwneud i chi deimlo’n falch o’r fwrdeistref sirol, a sut hoffech chi weld yr ardal yn gwella ei phroffil, ffyniant a naws am le.
Caiff yr ymarfer ei reoli gan arbenigwyr annibynnol a benodwyd gan Gyngor Wrecsam, ac mae cymryd rhan yn syml…
Ymwelwch â https://creulleoeddwrecsam.info/ a defnyddiwch yr offer a’r ffurflenni amrywiol i rannu eich barn.
Nid rhyw hen holiadur diflas ydi hwn. Gallwch osod pinnau ar fapiau rhyngweithiol ac uwchlwytho lluniau a chyfryngau eraill.
RHANNWCH EICH SYNIADAU
Sicrhewch eich bod yn rhannu eich barn erbyn dydd Gwener, 29 Hydref.
Yn dilyn hynny, bydd yr adborth yn cael ei ddadansoddi ac yn cael ei defnyddio ar gyfer dau beth.
- Helpu’r cyngor i benderfynu a ddylid gwneud cais am statws dinas neu beidio.
- Helpu i greu cynllun ‘creu lleoedd’ a fydd yn sicrhau dyfodol disglair a llewyrchus i Wrecsam.
Mae arnom ni angen pawb
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Er bod archwilio statws dinas yn rhan allweddol o’r ymarfer hwn, mae’n ymwneud â llawer mwy na hynny. Mae’n ymwneud â nodi cryfderau a gwendidau Wrecsam a pha gyfleoedd y dylem ni ganolbwyntio arnynt i sicrhau dyfodol disglair a llewyrchus.
“Mae’n ymwneud â bod yn uchelgeisiol a siapio dyfodol Wrecsam, deall beth mae pobl ei eisiau ar gyfer Wrecsam, a datblygu rhywle y gall pawb deimlo’n rhan ohono.
“Rhannwch eich syniadau. Nid yw’r cyngor yn gallu gwneud hyn ei hun, mae arnom ni angen i bawb gymryd rhan.”
RHANNWCH EICH SYNIADAU
Dinas Diwylliant 2025
Maen siŵr eich bod wedi darllen am Wrecsam yn cyrraedd yr wyth terfynol yng nghystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2025?
Peidiwch â drysu rhwng y gystadleuaeth hon â statws dinas– mae’r ddwy gystadleuaeth yn hollol wahanol, os bydd Wrecsam yn llwyddo i ennill Dinas Diwylliant y DU, bydd y dref yn cael ei nodi fel canolbwynt ar gyfer dathliadau a digwyddiadau diwylliannol ymhen pedair blynedd.
Mae statws dinas yn gystadleuaeth wahanol a fyddai’n nodi Wrecsam fel dinas swyddogol. Os bydd Wrecsam yn penderfynu cymryd rhan, byddai’n rhaid i’r cyngor gyflwyno cais ddechrau mis Rhagfyr.