Ruabon Station

Yn dilyn y newyddion yn gynharach eleni y bydd Gorsaf Rhiwabon yn gallu cael mynediad heb risiau o’r diwedd mae lawer o waith wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni i symud ymlaen â’r prosiect.

Mae grŵp llywio o bartneriaid allweddol bellach yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei gynnal i ddarparu cynlluniau i droi’r gwelliannau’n realiti.

Dim ond mynediad â grisiau sydd rhwng platfformau yn yr orsaf ar hyn o bryd, sy’n golygu nad ydi pobl anabl, pobl gyda phlant ifanc neu deithwyr gyda bagiau yn gallu cael mynediad i blatfform Caer – dyma’r unig orsaf ar lwybr Caer i’r Amwythig sydd methu â bodloni disgwyliadau teithwyr o orsafoedd trenau modern a hygyrch.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae hefyd yn borth rheilffordd a bysiau ar gyfer cyrchfannau pwysig i dwristiaid megis Llangollen a Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gwaith yn datblygu’n dda ac mae hi’n bleser gweithio gyda’r grŵp llywio sydd wedi ymrwymo i roi datrysiad ymarferol a chyflym at ei gilydd i wella’r orsaf er mwyn ei gwneud yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd Simon Baynes, Aelod Seneddol De Clwyd, “Rydw i’n falch iawn gyda’r cynnydd o ran mynediad heb risiau yn Rhiwabon a chyfarfodydd rheolaidd y grŵp llywio budd-ddeiliad allweddol. Rydw i’n rhoi’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Grant Shapps AS am ein cynnydd ac roeddwn i’n falch iawn ei fod wedi dod draw i Orsaf Rhiwabon ym mis Mai lle bu’n cwrdd â’r Cynghorydd David Bithell a minnau.

“Mae nifer o gynrychiolwyr, sefydliadau a phreswylwyr yn Rhiwabon wedi bod yn ymgyrchu am fynediad heb risiau yng Ngorsaf Rhiwabon ers sawl blwyddyn felly rydw i’n falch gweld y cynnydd sydd yn cael ei wneud. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Dde Clwyd a Gogledd Cymru gan bod fawr angen y prosiect yma er mwyn i deithwyr gael mynediad at y cyfleoedd swyddi a hamdden a fydd yn gwneud ein cymuned yn llefydd hyd yn oed gwell i fyw a gweithio.”

Dywedodd Ken Skates, Aelod o’r Senedd ar gyfer De Clwyd: “Rydw i wedi cydweithio â Chyfeillion Rhiwabon ar yr ymgyrch yma ers nifer o flynyddoedd ar ran y bobl leol, ac rydw i’n falch iawn ein bod ni bellach yn gweld cynnydd.

“Gofynnodd Mark Drakeford y Prif Weinidog i Adran Drafnidiaeth y DU i flaenoriaethu’r gwelliannau hir ddisgwyliedig yn Rhiwabon ar ôl i’n ceisiadau blaenorol fod yn aflwyddiannus, felly dwi’n gwybod y bydd pobl sy’n defnyddio’r orsaf yma yn croesawu hyn hefyd.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld y prosiect yma’n symud ymlaen ar ôl ymgyrch mor ymroddedig ac angerddol, a byddaf yn parhau i weithio gyda’r budd-ddeiliaid i helpu i sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth o’r diwedd.”

Mewn datganiad i Simon Baynes, AS, cadarnhaodd Sam Hadley, Pennaeth Cyfathrebu Network Rail y newyddion, dywedodd bod “Rhiwabon bellach wedi’i gynnwys ar Raglen Mynediad i Bawb’.  Mae hyn yn newyddion gwych gan bod Rhiwabon heb ei gynnwys yn y rhestr wreiddiol o orsafoedd yng Nghymru a’r Gororau a gyhoeddwyd gan Yr Adran Drafnidiaeth ym mis Ebrill 20219.

“Y nod yn gyffredinol yw ymgysylltu gyda Swyddog Cadwraeth y Cyngor a datblygu dyluniad amlinellol erbyn diwedd y cyfnod cyllido yn 2024. Bydd hyn yn galluogi i ni sefydlu cost y cynllun a symud ymlaen i ddyluniad manwl a chyflawni yn CP7 – yn amodol ar gefnogaeth gan arianwyr.

“Mae cyfranogiad budd-ddeiliaid ar lefel Seneddol Cymru, Prydain a’r awdurdod lleol yn bwysig, yn union fel cefnogaeth y gymuned ehangach. Rydym ni’n cydnabod angerdd y gymuned yn Rhiwabon, ei rôl fel porth i Langollen a’r dalgylch, a threftadaeth gyfoethog y rheilffordd yn y dref.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid er mwyn datblygu’r prosiect – rydym wedi ymrwymo i gyfarfod y budd-ddeiliaid allweddol yn rheolaidd, i’w diweddaru am y cynnydd a’u helpu nhw i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r bobl a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL