Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â chael eich dal gan bedleriaid ar garreg drws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â chael eich dal gan bedleriaid ar garreg drws
Pobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal gan bedleriaid ar garreg drws

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 30, 2018 3:24 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch â chael eich dal gan bedleriaid ar garreg drws
RHANNU

Rydym wedi cael gwybod am bedleriaid ar garreg drws sy’n gweithio yn ardal Wrecsam.

Cynnwys
  • Cadw llygad
  • Beth i’w wneud

Maent yn targedu pobl ddiamddiffyn posibl, i geisio gwerthu nwyddau rhad am brisiau uchel a chael eu manylion fel targedau ar gyfer bwrgleriaeth posibl yn y dyfodol.

Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, rydym wedi rhoi gwybodaeth at ei gilydd fel bod trigolion yn ymwybodol, a beth i’w wneud os byddant yn dod o hyd i werthwyr ffug wrth y drws.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Cadw llygad

Maent fel arfer yn ymddangos fel cyn-droseddwyr yn gwerthu nwyddau – cynnyrch glanhau fel arfer – o ddrws i ddrws fel rhan o’u hadsefydliad.

Dylai hynny roi rhybudd ar unwaith – nid yw gwasanaethau adsefydlu yn cynnal y mathau hyn o gynlluniau.

Gallant hefyd gyflwyno rhyw fath o gerdyn adnabod, gyda logo neu deitl rhyw fath o gynllun – ond gellir ffugio’r rhain yn hawdd.

Gall y sawl sy’n ymwneud â sgamiau o’r fath fod yn gyn-droseddwyr, ond yn sicr nid yw’r gwaith yn rhan o’u hadsefydliad.   Yn hytrach, mae’n rhoi cyfle iddynt chwilio am gartrefi fel targedau posibl ar gyfer bwrgleriaeth.

Er nad yw’r nwyddau maent yn eu gwerthu yn wael neu’n ddrud, maent yn tueddu i fod yn eitemau rhad a werthir am gostau llawer uwch na’u gwerth.

Gall y twyllwyr hyn fel arfer fod yn ddyfalbarhaus ac yn gwthio wrth geisio gwerthu eu nwyddau ac yn aml byddant yn gofyn llawer o gwestiynau am bwy bynnag wnaeth ateb y drws.

Fel hyn, gallant wybod a yw rhywun yn byw ei hun, pa fath o eitemau sydd ganddynt yn y tŷ a pha fath o ddiogelwch sydd ganddynt.

Beth i’w wneud

Os bydd gwerthwr fel hyn yn dod at eich drws, gallwch gadw eich hun yn ddiogel drwy ddefnyddio’r un rheolau euraidd ag y byddech gydag unrhyw alwr diwahoddiad arall.

Cofiwch nad oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i brynu unrhyw beth gan unrhyw un sy’n dod at garreg y drws.  Mae gennych bob hawl i wrthod yn gwrtais a chau’r drws.

Nid oes yn rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau – dywedwch na yn gwrtais.

Caewch y drws arnynt a ffoniwch yr heddlu ar 101 (neu 999 mewn argyfwng). Mae’n werth rhoi gwybod i’r heddlu drwy 101 hyd yn oed os nad oeddent yn bod yn ymosodol gyda chi yn bersonol.  Bydd yn gadael i’r heddlu wybod eu bod yn gweithredu yn yr ardal.

Os bydd y galwyr hyn yn cael digon o dai anymatebol mewn un stryd neu gymdogaeth, nid yn unig ni fyddant yn cael y wybodaeth maent eisiau, ond byddant yn gwybod fod pobl yn cadw golwg ac ni fyddant yn tueddu i ddod yn ôl.

Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn fregus i’r math hwn o gynllun eich hun, cadwch olwg am gymdogion neu berthnasau diamddiffyn.

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Beth yw Datblygu Darllenwyr? Beth yw Datblygu Darllenwyr?
Erthygl nesaf 60+ Prosiect yn y Gogledd i drawsnewid gofal i bobl ag anableddau dysgu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English