Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth y Byd fe fyddwn ni’n rhannu cyfres o flogiau am y gwaith yn ein cymunedau i wneud Wrecsam yn Ymwybodol o Awtistiaeth, yn ogystal â thynnu sylw at y wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i bobl a theuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth.
Elusen Gofrestredig yw Your Space sydd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam i ddarparu cefnogaeth i oedolion ifanc a phlant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth ynghyd â’u teuluoedd.
Cynhelir digwyddiadau a gweithgareddau yn cynnwys clybiau i’r rhai yn eu harddegau, diwrnodau allan i’r teulu, a chlybiau gwyliau. Mae yna lawer i’w wneud. Gall Your Space hefyd ddarparu Gwasanaeth Cymorth 1-1 i Deuluoedd ar gyfer eich plentyn a seibiant i chi. Gall y gwasanaeth unigryw yma gynnwys mynd allan am weithgaredd hwyliog, ymuno â sesiwn mewn clwb gweithgaredd, mwynhau ystafell synhwyraidd neu gefnogaeth yn y cartref. Gallwch ddysgu mwy am yr amrywiaeth o weithgareddau a chefnogaeth y mae Your Space yn ei gynnig drwy fynd i’w gwefan
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Your Space hefyd wedi creu cyfleoedd prentisiaethau gwych i bobl sydd ar y sbectrwm awtistig.
“Fe ddechreuais i weithio yn Your Space ym mis Medi 2021 fel Prentis Gweinyddol am flwyddyn.
Rydw i ar y sbectrwm fy hun, felly yn fy swydd yn Your Space, rydw i’n hoffi’r ffaith fy mod yn helpu plant a phobl ifanc sydd ar y sbectrwm neu sydd â phroblemau tebyg. Mae Your Space yn leoliad sydd yn deall ac sydd yn fy nerbyn.
Ar y cyfan rydw i’n mwynhau fy rôl yn Your Space, ac mae’r bobl rydw i’n gweithio â nhw yn bobl sy’n deall, yn helpu ac yn glên. Mae’n awyrgylch braf i weithio ynddo ac rydw i’n teimlo fy mod wedi gwneud yn dda yn fy swydd, ac rydw i wedi magu hyder ers dechrau gweithio yn Your Space.”
Jasmine, Prentis yn Your Space.
Gŵyl Gelfyddyau Your Space
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 2 Ebrill rhwng 12pm a 4pm am ddigwyddiad hwyliog i ddathlu cymuned Your Space ar Ddiwrnod Awtistiaeth y Byd. Bydd y digwyddiad yn Yellow and Blue a fydd yn cael ei gynnal gan Your Space.
Bydd lansiad ar gyfer albwm newydd Your Space ‘Songs out of the Ordinary’, yn agor y digwyddiad a bydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth, arddangosfeydd celf a ffotograffiaeth a gweithdai rhyngweithiol.
Mae’r digwyddiad cynhwysol hwn yn cynnwys hwyl i’r teulu cyfan! Bydd modd benthyg gwarchodwyr clyw addas.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a’r cyngor sydd ar gael ar draws Cymru, ewch i
Gwefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH