Rydym yn cynghori pobl sy’n chwilio am lety rhent i fod yn ymwybodol o sgamiau rhent cyffredin y gallent gael eu dal ganddynt. Fe wnaeth Action Fraud adrodd am golled o £1,400 ar gyfartaledd i ymgeiswyr yn ddiweddar.
Mae’r sgam fel arfer yn digwydd pan fydd troseddwr yn smalio bod yn landlord neu reolwr eiddo er mwyn gwneud i ddarpar rentwyr dalu arian am eiddo nad yw ar gael, nad yw’n bodoli, neu nad ydyn nhw’n berchen arno o gwbl. Gall y sgamiau hyn ddigwydd mewn sawl ffordd.
- Eiddo Rhent Rhithiol: Rhestrau eiddo nad ydynt yn bodoli neu nad ydynt ar gael i’w rhentu. Bydd troseddwyr yn eich denu â lluniau deniadol a bargeinion gwych.
- Hysbysebion wedi’u Hawlio: Pan fo troseddwyr yn copïo hysbysebion rhentu dilys a newid y manylion cyswllt, gan gyfeirio ymholiadau atyn nhw eu hunain yn hytrach na’r perchennog cywir.
- Denu a Newid: Nid yw’r eiddo a hysbysebwyd ar gael, ond mae’r troseddwr yn cynnig eiddo gwahanol, sy’n aml o ansawdd is.
Er mwyn osgoi sgamiau rhentu, gwyliwch am arwyddion cyffredin fel rhain:
1. Rhent isel: Os yw’r rhent yn sylweddol is nag eiddo arall yn yr ardal, byddwch yn ofalus.
2. Talu ymlaen llaw: Byddwch yn wyliadwrus o landlordiaid sy’n gofyn am arian ymlaen llaw cyn i chi weld yr eiddo, yn enwedig os ydynt yn gofyn am daliad trwy drosglwyddiad banc, cryptoarian neu docynnau rhodd.
3. Dim cyfarfodydd yn bersonol: Bydd troseddwyr yn aml yn osgoi cyfarfodydd personol. Os nad yw’r “landlord” yn gallu neu’n barod i gwrdd â chi’n bersonol neu ddangos yr eiddo i chi, dylech fod yn wyliadwrus.
4. Tactegau cymell: Gall troseddwyr roi pwysau arnoch chi i weithredu’n gyflym, gan honni bod pobl eraill â diddordeb yn yr eiddo neu mai dim ond am amser byr y mae’r cynnig ar gael.
5. Gwybodaeth Anghyflawn neu Amwys: Mae rhestrau dilys yn rhoi gwybodaeth fanwl. Byddwch yn amheus o hysbysebion heb lawer o luniau, disgrifiadau amwys neu gamgymeriadau sillafu. Os mai asiant ydynt, mae’n rhaid iddynt fod yn perthyn i gynllun gwneud iawn.
Defnyddiwch blatfformau rhentu dibynadwy er mwyn aros yn ddiogel. Gwiriwch fanylion landlordiaid a gwiriwch mai nhw yw perchennog yr eiddo. Peidiwch â thalu unrhyw beth cyn gweld yr eiddo, a phan fyddwch chi’n talu, talwch y rhent yn ddiogel.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’r farchnad rhent yn arbennig o brysur ar hyn o bryd ac mae nifer o rentwyr posibl yn edrych ar yr un eiddo. Gallai hyn roi mwy o gyfle i dwyllwyr sgamio rhywun a chymryd eu harian gwerthfawr felly mae’n bwysig dilyn yr arwyddion uchod er mwyn osgoi dioddef y mathau hyn o sgamiau.
“Cofiwch fod yn ddoeth a rhentu’n ddiogel!”
Os byddwch chi’n gweld nad yw eiddo sy’n cael ei gynnig ar rent yn bodoli, rhowch wybod i Gyngor ar Bopeth.
Os nad yw’r eiddo yn bodoli, mae’n fater i Cyngor Ar Bopeth neu Safonau Masnach.
Os byddwch chi’n gweld eiddo a bod gennych ddiddordeb ynddo, gallwch wirio manylion y landlord ar Rhentu Doeth Cymru cyn talu unrhyw arian neu lofnodi contractau.
Dylai partïon â diddordeb wirio dilysrwydd eiddo a Landlordiaid bob amser ar wefan Rhentu Doeth Cymru cyn talu unrhyw arian neu lofnodi contractau.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
You might also like to read Bwletin arbed ynni 5: Amnewid sbotoleuadau halogen gydag LEDs