Mae Cyngor Wrecsam eisiau clywed eich barn ar ein cynlluniau ar gyfer toiledau cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol.
Dydy toiledau cyhoeddus ddim o reidrwydd yn rhywbeth rydych chi’n siarad amdano bob dydd, ond mae pobl yn dibynnu ar gyfleusterau tŷ bach i fwynhau tra’u bod nhw allan.
Yn 2023, gofynnodd Cyngor Wrecsam i drigolion am eu barn ar doiledau cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol; o oriau agor a glendid i’w hanghenion personol neu sut y bydden nhw’n dod o hyd i’r tai bach. Ar ôl rhoi’r holl atebion at ei gilydd, mae strategaeth wedi’i llunio ar sut y bydd anghenion pobl leol ac ymwelwyr â’r fwrdeistref sirol yn cael eu bodloni drwy gynllun hirdymor.
Mae’r fersiwn ddrafft o’r strategaeth hon ar gael i chi ei darllen ar ein gwefan ymgynghori, lle gallwch hefyd roi eich barn i ni ar ein gweledigaeth ar gyfer dull mwy hygyrch a chynhwysol o ran sut mae toiledau cyhoeddus yn cael eu darparu a’u rhedeg.
Mae gennych chi tan 14 Ebrill 2025 i gwblhau’r ymgynghoriad ac rydyn ni am glywed gennych chi p’un a ydych chi’n breswylydd, yn ymwelydd, yn sefydliad neu’n fusnes.