Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diweddariad sydyn – mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diweddariad sydyn – mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos
Y cyngor

Diweddariad sydyn – mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 28, 2025 9:58 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Hoffem atgoffa ein preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd y byddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd bob pythefnos eto o fis nesaf (Mawrth).

Cynnwys
  • Gwasanaeth casglu gwastraff gardd 25/26
    • Mis Mawrth 2025 am ddim

Roedd cael casgliadau gwastraff gardd yn Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn caniatáu i ni roi amser i staff ddelio gyda materion problematig a achoswyd gan y gaeaf, megis llwybrau graeanu neu waith cynnal a chadw cyffredinol.

Ond wrth i ni symud tuag at y gwanwyn, gobeithio y bydd yn cynhesu rhywfaint a bydd preswylwyr yn gallu defnyddio eu bin(iau) gwyrdd yn amlach, felly bydd y casgliadau hyn yn dychwelyd yn ôl i bob pythefnos o fis Mawrth ymlaen.

Gwasanaeth casglu gwastraff gardd 25/26

Mae’r cyfnod adnewyddu ar gyfer y flwyddyn wasanaeth nesaf bellach ar agor, felly ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf, a gallwch ei wneud ar adeg sy’n gyfleus i chi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru mewn digon o amser i osgoi colli unrhyw gasgliadau pan fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Ebrill.

Y gost ar gyfer 2025/26 yw £35 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Mawrth 1 Ebrill 2025 tan ddydd Mawrth 31 Mawrth 2026. Byddwn yn parhau i adolygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Mis Mawrth 2025 am ddim

Trwy ddechrau’r flwyddyn wasanaeth nesaf ym mis Ebrill, mae’n golygu y bydd y rheiny sy’n tanysgrifio i’n gwasanaeth gwastraff gardd presennol yn elwa o fis ychwanegol o gasgliadau am ddim.

Roedd disgwyl i’r gwasanaeth presennol ddod i ben ar 28 Chwefror, ond mae hyn wedi cael ei ymestyn ymhellach. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd presennol, bydd eich biniau gwyrdd yn parhau i gael eu casglu tan 31 Mawrth 2025.

Darllenwch fwy: Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2025/26 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

TAGGED:ailgylchuamgylcheddbiniaubinsenvironmentgwastraffgwastraff garddwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Ble allwch chi fynd? Ble allwch chi fynd? Rhannwch eich barn gyda ni ar ein cynllun
Erthygl nesaf Compost Gweithdai garddio am ddim ar y gweill y mis hwn – cadwch eich lle!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English