Mae’r blog hwn yn un o nifer y byddwn ni’n eu cyhoeddi yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018
Yn ein blog olaf i hybu gwasanaethau ieuenctid yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid, heddiw, rydyn ni’n canolbwyntio ar waith ieuenctid yn y gymuned. Bydd y tîm yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn 30 Mehefin, felly fe gewch chi gyfle i’w cyfarfod er mwyn iddynt allu sôn wrthoch chi am eu gwaith arbennig.
Felly, i gychwyn, beth ydi gwaith ieuenctid?
Yn yr ystyr fwyaf cyffredinol, gwaith ieuenctid ydi gweithio gyda phobl ifanc a’u cefnogi gyda’u datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol. Gall hyn eu galluogi nhw i ddod o hyd i’w llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Ymdeimlad o ryddid a diogelwch
Mae gwaith ieuenctid cymunedol yn rhoi teimlad o ryddid a diogelwch i bobl ifanc. Mae hyn yn eu galluogi i gyfarfod a gwneud ffrindiau newydd, eu mynegi eu hunain yn well a phrofi pethau newydd y tu allan i’r ysgol.
Mae’r gweithwyr yn cefnogi pobl ifanc drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ac yn dod â nhw’n nes at eu cymunedau lleol.
Ble mae hyn yn digwydd?
Gall hyn ddigwydd mewn clybiau ieuenctid traddodiadol yn ogystal â mannau a safleoedd mwy pwrpasol o fewn cymunedau lleol.
Mae gwaith ieuenctid yn y gymuned yn dechrau lle mae yno bobl ifanc ac mae’n deillio o ymgysylltu gwirfoddol rhwng pobl ifanc a staff.
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, ond mae gwaith ieuenctid yn y gymuned yn canolbwyntio ar rai yn eu harddegau.
Mae Tîm Chwarae a Chymorth Ieuenctid Wrecsam yn gwneud gwaith ieuenctid mewn sawl cymuned leol, fel Brymbo, Tan-y-fron, Bwlch-gwyn, Mwynglawdd, Coed-poeth, Llai, Rhiwabon, Bradle a Brynteg.
Mae peth o’r gwaith yn cael ei ariannu gan Gynghorau Cymuned yn rhan o’u hymrwymiad i’w cymunedau a’u pobl ifanc. Mae Cyngor Wrecsam hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill fel partneriaeth Parc Caia i gefnogi cyfleoedd gwaith ieuenctid o amgylch canol y dref.
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at youthservice@wrexham.gov.uk neu ewch i youngwrexham.co.uk/cy.
Bydd nifer o wasanaethau eraill yn hybu eu gwaith hefyd, gyda llwyth o weithgareddau hwyliog ac anffurfiol i’w gwneud.
Meic Agored
Un o’r digwyddiadau hyn ydi sesiwn meic agored yn cychwyn am 1pm ac wedyn am 3pm cewch glywed Luke Gallagher yn perfformio cerddoriaeth fyw.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB