Roedd canol tref Wrecsam heddiw yn llawn lliwiau ac arogleuon anhygoel wrth i’r Farchnad Gyfandirol agor am y cyntaf o bedwar diwrnod o fasnachu yng nghanol y dref.
Y Farchnad Gyfandirol yw’r digwyddiad cyntaf i’w gynnal yn dilyn cwblhau gwelliannau i balmentydd a chelfi stryd ardal Stryt y Syfwr a Styt yr Hôb yng nghanol y dref.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi buddsoddi swm arwyddocaol i fewn i balmentydd a chelfi stryd newydd er mwyn cefnogi masnachwyr presennol yng nghanol y dref ac annog busnesau newydd i agor yn Wrecsam. Mae’n bwysig bod gennym ni le deniadol i siopwyr a busnesau, ac rwy’n falch iawn bod y gwaith bellach wedi’i gwblhau er mwyn i bawb ohonom ni gael mwynhau canol y dref ar ei newydd wedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio: “Mae yna gyfnod prysur o ddigwyddiadau o’n blaenau ni yng nghanol y dref, ac mae’r Farchnad Gyfandirol yn ychwanegiad i’w groesawu’n fawr. Rwy’n siŵr y gwelwn ni lawer o ymwelwyr i ganol y dref dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, a gobeithio y bydd y masnachwyr presennol yn croesawu’r niferoedd ychwanegol o siopwyr a’r manteision y bydd hynny’n ei gynnig i’w busnesau.”
Bydd y farchnad yma rhwng 10:00am a 5:00pm o heddiw tan ddydd Sadwrn.
Bydd tua 20 o fasnachwyr yn gwerthu danteithion gastronomegol ac eitemau crefft gorau’r cyfandir. Bydd y bwyd fydd ar gael yn amrywio o gacennau a theisennau crwst i’r bobl hynny sydd â dant melys, i gawsiau ac olifau i’r rhai sy’n ffafrio bwydydd sawrus, yn ogystal â llawer o fwydydd poeth megis Gyros Groegaidd, Paella o Sbaen a Pad Thai.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN