Bydd dangosiad arbennig o’r ffilm “Britain on Film – Welcome to Britain” sy’n rhoi cipolwg o’r croeso y mae mewnfudwyr wedi’i dderbyn wrth gyrraedd y DU.
Dangosir y ffilm yn ystod Wythnos Y Ffoaduriaid ddydd Iau, 20 Mehefin yn Nhŷ Pawb am 7pm.
Mae tocynnau yn rhad ac am ddim a darperir bwyd ond gofynnir i chi archebu o flaen llaw.
Mae’r ffilm yn edrych yn ôl ar ganrif o fewnfudwyr yn cyrraedd y DU. Ynddi clywir lleisiau gwahanol genedlaethau o fewnfudwyr Prydeinig.
Mae llawer o bobl wedi cyrraedd y DU yn chwilio am ddiogelwch, rhyddid neu well bywyd ac yn yr 20fed ganrif gwelwyd cynnydd mewn mewnfudo.
Er bod rhai mewnfudwyr wedi cael croeso, mae eraill wedi cael profiadau gelyniaethus, hiliol a senoffobig er eu bod yn cyfoethogi ein bywydau economaidd a diwylliannol.
Mae’r ffilm yn edrych ar deuluoedd Basgaidd sy’n ffoi o Ryfel Cartref Sbaen ac yn cyrraedd Southampton, plant o Fietnam sy’n canfod lloches ym Mirmingham, teulu Iddewig sy’n dianc i faestref yn Derby rhag cyflafanau cyn rhyfel Romania. Mae’n dangos yr aml-ddiwylliant cynnar a ddechreuodd yn Llundain a Manceinion a hanesion ail genhedlaeth o fewnfudwyr ymysg hiliaeth a therfysgaeth y 70au a’r 80au.
Trefnwyd y dangosiad gan Dref Noddfa Wrecsam sy’n ceisio darparu lle croesawgar a diogel i’r rheiny sy’n dianc rhag trais ac erledigaeth.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae Tref Noddfa yn mynd ati i groesawu unrhyw un sy’n dod i Wrecsam a chynnig lloches iddyn nhw rhag trais ac erledigaeth. Mae eu hymrwymiad i’r achos hwn yn ganmoladwy a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y cyfle hwn i ddysgu mwy am brofiadau mewnfudwyr sydd wedi ymgartrefu yma yn y DU.”
Dywedodd grŵp Tref Noddfa Wrecsam: “Mae’r DU a Wrecsam wedi derbyn mewnfudwyr o bob cwr o’r byd ers nifer o flynyddoedd. Mae llawer ohonyn nhw wedi dianc rhag amodau dychrynllyd a chael eu gorfodi i adael eu cartrefi a’u teuluoedd er mwyn amddiffyn eu bywydau a’u credoau. Mae’r rhain yn bobl sydd i gyd wedi cyfrannu at y wlad aml-ddiwylliant ac amrywiol yr ydym yn byw ynddi heddiw ac mae’r ffilm hon yn rhoi cipolwg i ni o’r ffordd y mae eu storïau wedi cael eu hailadrodd ledled y DU yn ystod ganrif ddiwethaf.”
Cofiwch y dyddiad – dydd Iau 20 Mehefin yn Nhŷ Pawb gan ddechrau am 7pm. Archebwch le o flaen llaw yma.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN