Mae Tŷ Pawb yn cyflwyno profiad siopa arbennig iawn!

Ymunwch â ni am ffair grefftau haf Helfa Gelf!

Bydd y ffair yn cynnwys dros 20 o stondinau yn arddangos crefftau, cardiau, anrhegion a mwy wedi’u gwneud â llaw hyfryd gan yr artistiaid o gymuned Helfa Gelf.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Beth fydd yn digwydd?

Bydd digon yn digwydd yn ystod y dydd i chi ei fwynhau, gan gynnwys –

  • Crefftau, cardiau a phrintiau
  • Eitemau lleol, wedi’u gwneud â llaw
  • Cerddoriaeth fyw
  • Bwyd a diod ffantastig
  • Gweithdai ac arddangosiadau
  • Mynediad am ddim

Roedd y ffair grefftau olaf (ychydig cyn y Nadolig) yn llwyddiant ysgubol felly disgwyliwch fwy o’r un peth y tro hwn!

Pryd mae hi?

Cynhelir y ffair yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, 2019 am 11am-4pm

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb