Erthygl gwestai gan StepChange
Rydym ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau rheoli eu harian yn y ffordd orau bosibl. Fodd bynnag, gall y syniad o roi cyllideb at ei gilydd ysgogi teimladau o bryder ac aflonyddwch – ble ydych chi’n dechrau?
I fod yn wirioneddol synhwyrol yn ariannol, mae angen i chi gael dealltwriaeth drwyadl o’ch incwm a’ch gwariant, a chael cyllideb yw’r ffordd orau o gyflawni hyn.
Creu cyllideb yw’r cam cyntaf tuag at reoli eich arian a chael syniad clir o’ch sefyllfa. Mae’n eich helpu chi i weld i ble mae’ch arian chi’n mynd, felly mae’n haws gwneud yn siŵr eich bod chi wedi talu am yr holl bethau y mae angen i chi dalu amdanynt.
Fel prif ddarparwr cyngor ar ddyledion y DU, mae StepChange wedi helpu miliynau o bobl i adennill rheolaeth ar eu harian trwy gydol y 30 mlynedd ers ei sefydlu. Mae Dawn Cattrell yn Gynghorydd Dyledion dibynadwy yn StepChange ac yn lleol i Wrecsam, ac mae’n rhannu rhywfaint o gyngor ar sut i ymdrin â chyllidebu’n hyderus.
Awgrymiadau defnyddiol Dawn
“Hoffwn rannu awgrym arbennig y gall unrhyw un ddechrau ag ef! Wrth i gost ein siopa bwyd barhau i gynyddu, rwy’n argymell eistedd a gwneud rhestr o brydau bwyd y mae pawb yn eu hoffi a chynllunio’ch siopa yn ôl y cynhwysion angenrheidiol. Os oes gennych chi blant, beth am eu cynnwys nhw hefyd! Mae’n wych eu cael nhw’n cymryd rhan a rhannu’r broses o wneud penderfyniadau ariannol.
“Yn bwysicach na dim, gwnewch restr a glynwch ati. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych chi’r prydau bwyd sydd eu hangen arnoch chi a byddwch chi’n cadw pawb yn (weddol) hapus.
“Yn ogystal â hyn, peidiwch byth â mynd i siopa pan fyddwch chi’n llwglyd – pobl ydym ni wedi’r cyfan, a bydd hyn fel arfer yn arwain at brynu nwyddau ychwanegol nad oes eu hangen arnom ni. Felly, wrth greu cyllideb lawn, dyma’r hyn y bydd angen i chi ei wneud…”
1. Cyfrifo cyfanswm eich incwm
“Mae llawer o resymau pam y byddech chi’n ystyried cyllidebu’n anodd. Peidio â gwybod pa filiau yw eich rhai pwysicaf, bod â chyllideb nad yw’n realistig. Teimlo eich bod chi’n cael eich cosbi drwy dorri lawr ar bethau yr ydych chi’n hoff iawn ohonyn nhw neu beidio â chael nod ariannol mawr i weithio tuag ato. Dyna pryd y gellir defnyddio lleoedd fel StepChange, i roi’r cymorth hwnnw i chi.
“O ran creu cyllideb, y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw cyfrifo cyfanswm pob incwm yr ydych chi’n ei gael bob mis.
“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys popeth, boed yn gyflog, budd-daliadau neu’n bensiynau. Os yw ychydig o’ch incwm chi’n cael ei dalu’n wythnosol neu bob 4 wythnos, bydd angen i chi droi’r ffigurau hyn yn rhai bob mis calendr. I wneud hyn, lluoswch y ffigur wythnosol â 52 ac yna rhannu hwn â 12. Bydd hwn wedyn yn rhoi ffigur bob mis calendr i chi i’w gynnwys yn eich cyllideb.”
2. Gwnewch restr o bopeth yr ydych chi’n ei wario bob mis
“Dechreuwch â’ch biliau pwysicaf. Eich morgais, rhent, treth y cyngor a biliau gwasanaethau fel nwy, trydan a dŵr.
“Mae’r rhain yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth oherwydd gyda’r rhain y mae’r canlyniadau mwyaf difrifol os yw eich taliad chi’n hwyr neu os ydych chi’n methu taliad.
“Nesaf, ysgrifennwch yr hyn yr ydych chi fel arfer yn ei wario ar gostau byw fel bwyd, dillad a chynhyrchion ymolchi. Gall defnyddio hen dderbynebau siopa eich helpu chi i gyfrifo’r hyn yr ydych chi’n ei wario ar y nwyddau hyn bob mis.
“Peidiwch ag anghofio cynnwys symiau ar gyfer pethau yr ydych chi’n talu amdanyn nhw unwaith y flwyddyn yn unig neu’n llai aml, fel y Nadolig, trwsio ceir, neu filiau milfeddyg.
“I wneud hyn, lluoswch y gost flynyddol â 12 er mwyn cael ffigur misol y gallwch chi ei gynnwys yn eich cyllideb. Gallwch chi wedyn roi’r arian hwn i’r naill ochr tan ei bod hi’n amser talu’r bil.”
3. Tynnwch y cyfanswm yr ydych chi’n ei wario bob mis o’ch incwm misol
“Os oes gennych chi unrhyw arian yn weddill ar ôl i chi dalu am bopeth, mae gennych chi ‘warged cyllideb’. Os ydych chi’n gwario mwy o arian nag sydd gennych chi’n dod i mewn, mae gennych ‘ddiffyg yn y gyllideb’.
“Pan fyddwch chi wedi cadarnhau eich sefyllfa ariannol, gallwch chi weld ymhle efallai y mae’r broblem. Er enghraifft, ydych chi’n talu gormod o ffioedd banc neu ormod o ad-daliadau dyledion?
“Nid oes yn rhaid i greu cyllideb fod yn gymhleth, ac mae llawer o apiau a gwefannau’n rhad ac am ddim ar gael a fydd yn helpu i’w gwneud yn llawer haws i chi.
“Weithiau mae’n fater o gymryd ychydig o gamau syml i wella’ch sefyllfa ariannol, fel canslo tanysgrifiadau diangen neu ddod o hyd i gontract ffôn sy’n well gwerth am arian.
“Weithiau, bydd y broblem yn fwy, ac efallai nad oes atebion cyflym ar gyfer eich sefyllfa. Gallai hyn fod yn arwydd y byddech chi’n elwa o gymorth â dyledion yn rhad ac am ddim.
“Bydd ymgynghorydd yn eich helpu chi i ddeall eich sefyllfa ariannol cyn iddyn nhw argymell ffordd o ymdopi â’ch pryderon ariannol, fel nad oes yn rhaid i chi ymdopi ag ef ar eich pen eich hun.”
Cael gafael ar y cymorth â dyledion yn rhad ac am ddim sydd ar gael
Pa un a ydych chi’n poeni am fethu taliadau pwysig neu eich bod chi eisiau darlun cliriach o’ch sefyllfa ariannol, mae llawer o fanteision i greu cyllideb.
Er enghraifft, os ydych chi’n ei chael yn anodd gwneud taliadau, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu cytuno ar daliadau mwy fforddiadwy â’ch credydwyr. Rhannwch eich cyllideb â’ch credydwyr pan fyddwch chi’n gofyn iddyn nhw am drefniant talu dros dro neu wyliau rhag talu.
Os cewch chi gyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar ddyledion, gallwch chi hefyd wirio a ydych chi’n gymwys i gael Seibiant.
Cafodd y cynllun hwn gan y llywodraeth ei lansio yn 2021 (sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr) ac mae’n helpu i leihau rhywfaint ar y pwysau a’r straen y mae bod mewn dyled yn ei achosi drwy atal credydwyr rhag cysylltu â chi am eich dyledion am 60 diwrnod. Gall tîm arbenigol o gynghorwyr dyledion StepChange eich helpu chi i lunio’ch cais dros y ffôn, neu gallwch chi wneud hyn yn annibynnol ar-lein.
DARLLENWCH FWY