Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym meysydd parcio Cyngor Wrecsam drwy gydol mis Rhagfyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Parcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym meysydd parcio Cyngor Wrecsam drwy gydol mis Rhagfyr
ArallPobl a lleY cyngor

Parcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym meysydd parcio Cyngor Wrecsam drwy gydol mis Rhagfyr

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 12, 2025 1:24 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
funding
RHANNU

Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnig parcio am ddim yn ei feysydd parcio bob dydd Sadwrn yn ystod mis Rhagfyr.

Y nod yw annog pobl i ymweld â chanol y ddinas cyn ac yn ystod cyfnod yr ŵyl – gan helpu i gefnogi busnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Nadolig yn gyfnod hanfodol i’r diwydiant manwerthu a hamdden, ac rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig parcio am ddim ar ddydd Sadwrn yn ystod mis Rhagfyr.

“Mae pawb yn gwybod bod cynghorau yn wynebu heriau ariannol mawr ar hyn o bryd, felly rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu fforddio cynnig y cymhelliad hwn, gan ei bod hi mor bwysig cefnogi busnesau lleol trwy annog pobl i siopa a threulio amser hamdden yn y ddinas.

“Byddwn i’n annog pawb i fanteisio ar y cynnig a dod i ganol dinas Wrecsam cyn ac yn ystod cyfnod yr ŵyl, a helpu i gefnogi ein heconomi leol.”

Pa feysydd parcio sydd wedi’u cynnwys?

Bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio’r Cyngor (ac eithrio Tŷ Pawb) ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sadwrn, Rhagfyr 6
  • Dydd Sadwrn, Rhagfyr 13
  • Dydd Sadwrn, Rhagfyr 20
  • Dydd Sadwrn, Rhagfyr 27

Mae meysydd parcio’r Cyngor yn cynnwys:

  • Canolfan Byd Dŵr
  • Llyfrgell Wrecsam
  • Cilgant San Siôr
  • Ffordd y Cilgant
  • San Silyn
  • Neuadd y Dref
  • Stryd y Farchnad

Sylwch nad yw’r maes parcio yn Tŷ Pawb wedi’i gynnwys yn y cynnig hwn – bydd ffioedd parcio arferol yn Tŷ Pawb.

Rhannu
Erthygl flaenorol Lancaster plane Wrecsam yn ystod y Rhyfel – Straeon ein harwyr lleol – Rhan pedwar
Erthygl nesaf Winter coats Ymgyrch ddillad lwyddiannus yn dychwelyd y gaeaf hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English