Mae Aparito yn arbenigo mewn darparu dyfeisiadau i’w gwisgo ac apiau clefyd-benodol i ffonau symudol i ddarparu monitro cleifion o bell, tu allan i amgylchedd yr ysbyty.
Ar ôl sefydlu eu hunain ynn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf, roedd Aparito yn edrych i ehangu a helpodd tîm Busnes a Buddsoddiad Cyngor Wrecsam i ddod o hyd i safle posib iddynt, eu tywys o’u hamgylch gydag asiantiaid, eu cyflwyno i arweinwyr sector arloesi Llywodraeth Cymru a rhoi cysylltiadau iddynt ar gyfer prynu dodrefn swyddfa hyd yn oed, i’w helpu i ddechrau ar y droed flaen.
Mae’r cwmni yn cyflogi gweithwyr iechyd a TGCh proffesiynol i ddatblygu dyfeisiadau a rhaglenni clyfar, cludadwy a deniadol sy’n addas i gleifion o bob oed, o blant bach i bobl ifanc egnïol a chleifion hŷn, bregus hyd yn oed.
Mae Aparito nawr wedi symud i uned Ym Mharc Technoleg Wrecsam ac yn ystod yr haf roedd y tîm Busnes a Buddsoddiad yn falch iawn o rannu eu swyddfa a darparu gofod desgiau i Aparito tra roedd y swyddfa newydd yn cael ei pharatoi iddynt.
“…antur gyffrous…”
Dywedodd Dr Elin Haf Davies, Prif Swyddog Gweithredol Aparito: Cefais fy ngeni yn Wrecsam, rydw i a’n Prif Swyddog Gwybodaeth Chris Tyson yn Gymru ac er bod 20 mlynedd wedi pasio ers gadael Cymru, rydym ni’n dau yn gyffrous iawn i agor swyddfa yng Nghymru. Rydym yn gobeithio mai dyma fydd dechrau antur gyffrous i Aparito yng Nghymru.
Mae’r estyniad yn Wrecsam yn golygu bod gennym leoliad canolog yn y Deyrnas Unedig a gallwn wasanaethu’r sawl sefydliad rydym yn cydweithio gyda nhw i gyflwyno’r datblygiad gofal iechyd hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl help a chefnogaeth rydym wedi ei gael gan Tîm Busnes a Buddsoddi Wrecsam.
Aelod Arweiniol yr Economi – Datblygu Economaidd ac Adfywiad, Cyngor Wrecsam, Councillor Terry Evans: “Rydym wrth ein boddau bod y cwmni arloesol hwn wedi dewis symud i Wrecsam, rydym wedi gallu darparu amrywiaeth o gefnogaeth, yn cynnwys dod o hyd i swyddfa wych ym Mharc Technoleg Wrecsam ac rydym yn edrych ymlaen at weld Aparito’n tyfu ac yn cyfrannu at economi Wrecsam.”
Darganfyddwch fwy am sut y gall y Tîm Busnes a Buddsoddi helpu eich busnes:
01978 667000
business@wrexham.gov.uk
@CymorthBusWcsm
Mwy o wybodaeth am Aparito: www.aparito.com / @aparitohealth
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT