Mae menter gymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau sy’n creu lleoliadau gwaith ystyrlon ac amgylchedd gwaith go iawn i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol wedi agor ei drysau yn Wrecsam.
Mae salon gwallt a harddwch Cwmni Buddiannau Cymunedol Beyond the Boundaries sydd wedi’i leoli ym Mhartneriaeth Parc Caia, yn cynnig triniaethau cost isel i breswylwyr, yn cynnwys Trin Gwallt, Tyliniad Swedaidd, Tyliniad Aromatherapi, Tylino Pen yn y Dull Indiaidd, Tyliniad â cherrig poeth, Triniaethau i’r dwylo a thraed, Ewinedd Gel, Ewinedd Acrylig, Estheteg, Blew amrannau clasurol, blew amrannau Rwsiaidd, Cwyro a lliwio aeliau, trin yr aeliau, codi a lliwio amrannau, a thyliniad babi.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r costau isel yn adlewyrchu statws dan hyfforddiant y rhai sy’n darparu’r triniaethau.
Er mwyn pwysleisio llwyddiant y fenter, cafodd Cwmni Buddiannau Cymunedol Beyond the Boundaries, ddyfarniad Gwobr Aur City and Guilds ar gyfer hyfforddiant.
Dywedodd Jill Smith y perchennog, “Rydw i wrth fy modd i fod yn ehangu mewn i Wrecsam ar ôl pum mlynedd llwyddiannus yn Sir y Fflint.
“Fe fydd y bobl ifanc sydd yn mynychu salon Beyond the Boundaries yn cael cyfle gwych i ennill sgiliau gwaith a bywyd, cymwysterau achrededig a sgiliau byw’n annibynnol trosglwyddadwy sydd eu hangen i wella ansawdd eu bywyd yn ogystal â chael gwaith.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at gyfarfod nifer o gwsmeriaid a’r rhai fydd yn cael eu hyfforddi, ac allwn ni ddim aros nes i ni fod wedi sefydlu yn Wrecsam.”
Mae chwech o’r rhai sydd eisoes wedi bod gyda Jill wedi symud ymlaen i gael cyflogaeth am dâl ac maent wedi cael cefnogaeth gan bartneriaid megis Cymunedau am Waith, Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, a’r sector gwirfoddol.
Dywedodd Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Oedolion, y Cyng. John Pritchard “Fe hoffwn i groesawu Jill i Wrecsam a ‘dw i’n gwybod y bydd hi’n cael croeso cynnes. ‘Dw i’n dymuno pob hwyl iddi wrth iddi ehangu ei busnes a ‘dw i’n edrych ymlaen at glywed ei llwyddiant hi a’r oedolion ifanc a fydd yn elwa o’r hyfforddiant a phrofiad gwaith gwerthfawr yma yn y dyfodol. Pob lwc Jill!”
Os hoffech chi, fe allwch chi daro golwg ar eu gwefan newydd sydd yn cynnwys y cyfle i bobl archebu lle ar gyrsiau yn ogystal â thriniaethau harddwch.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL