Nodyn briffio Covid-19 – gwisgwch fwgwd (a helpu i achub y Nadolig?)

Mwgwd

Oni bai eich bod wedi’ch eithrio, mae angen i chi barhau i wisgo mwgwd dan do yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru – fel siopau ac ar gludiant cyhoeddus.

Ond nid yw pawb yn cadw at y rheolau. Os bydd digon o bobl yn eu hanwybyddu nhw, mae gennym ni lawer iawn i’w golli…

Gallem golli ein hiechyd. Efallai y gallem ni golli rhywfaint o’n rhyddid.

Yn waeth na dim, gallai rhywun sy’n annwyl i ni golli eu bywyd (mae pobl yn dal i farw o Covid bob dydd).

Pris bach i’w dalu yw gwisgo mwgwd, os yw’n helpu i sicrhau y cawn ni Nadolig llawen ac iach.

🙂

Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un

Mae pobl sy’n gymwys ledled gogledd Cymru’n cael llythyrau’n cynnig pigiad atgyfnerthu ac mae’n bwysig ichi beidio ag oedi cyn derbyn eich apwyntiad pan gewch chi un.

Pam fod arnaf angen pigiad atgyfnerthu?

Fel sy’n digwydd gyda brechlynnau eraill, mae’r amddiffyniad a gewch chi gan y brechlyn rhag Covid-19 yn dechrau pylu dros amser. Drwy gael dos atgyfnerthu byddwch yn ymestyn yr amddiffyniad a gawsoch chi o’ch dau ddos cyntaf.

Ac yn bwysicaf oll mae’n helpu i leihau’r perygl y bydd angen ichi fynd i’r ysbyty gyda Covid-19 y gaeaf hwn.

Darllenwch fwy…

Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un

Ewch i gael eich brechiad ffliw hefyd

Os ydych chi’n gymwys i gael brechiad ffliw, manteisiwch ar y cynnig.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig brechiad ffliw a brechiad atgyfnerthol Covid ar yr un pryd. Mae’n siŵr y cewch chi eich brechiad Covid mewn canolfan frechu Covid-19, ond bydd y brechiad ffliw ran amlaf yn cael ei roi yn eich meddygfa.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael llythyrau apwyntiadau ar wahân ar gyfer y ddau frechiad.

Oes gan rywun rydych chi’n byw gyda Covid, neu symptomau?

Canllaw cyflym 👇👇👇

Sut i gael Pàs COVID y GIG yng Nghymru

Rhai i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG. Ni allwch ddefnyddio ap y GIG i gael Pàs COVID y GIG os ydych yn byw yng Nghymru. Gallwch lawr lwytho ac argraffu Pàs COVID y GIG.

Mae’n rhaid i chi fod:

  • dros 16 oed
  • wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru

Bydd angen i chi lwytho llun o un o’r canlynol:

Os nad oes gennych ID sy’n cynnwys llun, bydd angen ichi ofyn am fersiwn bapur o dystysgrif COVID y GIG.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk”]TREFNWCH EICH PÀS COVID[/button]

Dolenni defnyddiol