Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnes o Wrecsam yn dathlu 60 mlynedd gyda gwobr genedlaethol fawreddog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Busnes o Wrecsam yn dathlu 60 mlynedd gyda gwobr genedlaethol fawreddog
Busnes ac addysg

Busnes o Wrecsam yn dathlu 60 mlynedd gyda gwobr genedlaethol fawreddog

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 25, 2025 1:31 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Busnes o Wrecsam yn dathlu 60 mlynedd gyda gwobr genedlaethol fawreddog
Ann Anglesea a Cyng Nigel Williams
RHANNU

Mae busnes o Wrecsam sydd wedi bod yn gwasanaethu cwsmeriaid ers 60 mlynedd wedi ennill prif wobr genedlaethol yn y diwydiant teithio.

Agorodd Delmar World, sydd wedi’i leoli ar Ffordd Caer yng Ngresffordd, ei ddrysau yn ôl ym 1964.

Heddiw, mae’r rheolwr gyfarwyddwr Ann Anglesea a’i brawd Howard yn parhau i arwain y busnes teuluol ar hyd llwybr llwyddiant – ac mae Delmar wedi’i henwi’n ddiweddar yn enillydd Gwobrau Teithio Moethus TTG eleni.

Mae’r gwobrau’n cael eu parchu’n fawr yn y diwydiant, ac yn edrych ar sut mae busnesau’n gofalu am eu cwsmeriaid a’u gweithwyr, a’u gwybodaeth a’u hymrwymiad i’r lleoedd lle maen nhw’n anfon eu cwsmeriaid ar wyliau.

Curodd Delmar gystadleuaeth gref gan gannoedd o asiantaethau teithio eraill ledled y DU, a chyflwynwyd eu gwobr iddynt mewn seremoni ddisglair yn Llundain yn ddiweddar.

Yr wythnos diwethaf aeth y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, i gwrdd ag Ann a’r tîm.

Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Mae chwe deg mlynedd yn garreg filltir enfawr, a pha ffordd well o ddathlu na thrwy ennill gwobr genedlaethol fawreddog?

“Mae Delmar World yn fusnes lleol gwych sy’n parhau i ffynnu a thyfu – gan danlinellu’r ffaith bod Wrecsam yn lle gwych i wneud busnes.

“Mae mor bwysig ein bod ni’n cefnogi mentrau lleol ac roedd yn wych cwrdd ag Ann a’r tîm, a gwrando ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rwy’n gobeithio eu bod yn parhau i fwynhau pob llwyddiant.”

Dywedodd Ann: “Ar ôl tyfu i fyny gyda’r busnes teuluol, rydw i mor falch bod fy mrawd Howard a minnau’n dathlu 60 mlynedd yn y diwydiant teithio.

“Gyda’n gilydd rydym nid yn unig wedi tyfu’r busnes, ond rydyn ni wedi cadw’r un gwerthoedd ac ethos ers pan gafodd ei ddechrau ym 1964.

“Mae llawer o’n cwsmeriaid yn cofio ein dyddiau cynnar ac mae eu plant a’u hwyrion yn archebu eu hanturiaethau byd-eang gyda ni heddiw, sy’n golygu’r byd i ni!

“Ennill y wobr genedlaethol hon yw’r un mawr i ni. Mae gennym gymaint i’w gynnig yn yr arena gwyliau moethus ac rydym yn falch ein bod wedi cael ein cydnabod am ein gwaith caled. Fodd bynnag, rydym yn cynnig gwyliau rhatach hefyd!”

Mae Cyngor Wrecsam yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi busnesau sydd wedi’u lleoli yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â busnesau sy’n dymuno cychwyn yn Wrecsam neu symud i Wrecsam.

Darllenwch fwy ar wefan y cyngor.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dog Baw Cŵn – Codwch neu gael dirwy!
Erthygl nesaf Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English