Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2025 2:38 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru
RHANNU

Y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) ar gyfer Gogledd Cymru yw’r strategaeth i gyflawni system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar draws y rhanbarth.

Mae sesiwn ymgysylltu wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun 7 Ebrill yn Llyfrgell Wrecsam 10-1pm a 3-5.45pm.

Gallwch ddysgu mwy am y cynllun trafnidiaeth a dweud eich dweud ar-lein yma

Bydd cyflawni’r cynllun a’i flaenoriaethau, unwaith y cytunir arnynt, yn cefnogi’r economi i ffynnu yn y tymor hir ac mae’n hanfodol ar gyfer gwella cysylltedd, a gwella ansawdd bywyd trigolion ac ymwelwyr. Trwy flaenoriaethu buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith teithio llesol ar gyfer beicio a cherdded, a datblygu atebion symudedd arloesol, nod y CTRh yw lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat a hyrwyddo opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar.

Yn ogystal, mae’r cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd lleihau effaith amgylcheddol negyddol ein rhwydwaith trafnidiaeth, gan gyfrannu at ymrwymiad Gogledd Cymru i gynaladwyedd a lliniaru newid hinsawdd.

Bydd cyflawni’r CTRh a’i flaenoriaethau’n llwyddiannus yn cefnogi’r economi ranbarthol, yn gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, ac yn creu system drafnidiaeth fwy cysylltiedig a gwydn ar gyfer y dyfodol.

Trwy gydweithio ag awdurdodau lleol, awdurdod y parc cenedlaethol, Trafnidiaeth Cymru, busnesau lleol, a chymunedau, bydd y CTRh yn helpu Gogledd Cymru i drosglwyddo i rwydwaith trafnidiaeth fwy cynaliadwy ac integredig, a fydd o fudd i bawb yn y rhanbarth. 

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Trafnidiaeth Strategol: “Mae datblygu trafnidiaeth ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru er budd preswylwyr ac ymwelwyr yn rhywbeth fydd yn effeithio ar bob un ohonom, felly mae’n bwysig dweud eich dweud ar yr hyn yr hoffech ei weld, naill ai yn ein sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein. “Bydd yr ymgynghoriad ar-lein yn parhau hyd at 14 Ebrill.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Busnes o Wrecsam yn dathlu 60 mlynedd gyda gwobr genedlaethol fawreddog Busnes o Wrecsam yn dathlu 60 mlynedd gyda gwobr genedlaethol fawreddog
Erthygl nesaf Cgi impression of the proposed transport hub in Wrexham Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer gorsaf drafnidiaeth newydd a gwaith adfywio ehangach yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English