Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
ArallBusnes ac addysg

Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!

Diweddarwyd diwethaf: 2020/07/16 at 1:33 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
The Plassey Wrexham
RHANNU

Gyda’r cyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi diwydiant ymwelwyr Cymru i ddechrau ailagor yn araf, mae busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi wynebu eu heriau eu hunain o ran pontio rhwng y cyfnod clo ac ailagor i groesawu ymwelwyr yn ôl i’r ardal yn ddiogel.

Ers mis Mawrth mae gweithredwyr twristiaeth yn yr ardal leol wedi uno i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam i fwydo i strategaeth Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru). Ar ôl wythnosau o ddyfalu ac ansicrwydd am ddyfodol y sector twristiaeth yng Nghymru, roedd y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener yn rhoi rhybudd i rannau dan do y sector twristiaeth i baratoi ar gyfer ailagor ar 3ydd Awst, gyda nifer o leoedd hunan arlwyo ac atyniadau awyr agored yn ailagor o’r wythnos hon.

Er gwaetha’r newyddion mae wedi bod yn gyfnod pryderus i nifer o fusnesau twristiaeth ar draws Cymru, gyda’r sector yn dal i wynebu posibilrwydd o’r hyn sy’n gyfystyr i flwyddyn gyda “thri gaeaf” os na fydd hyder y defnyddiwr yn dychwelyd yn ddiweddarach yr haf hwn, gyda diffyg cyllid i gynnal swyddi dros gyfnod y gaeaf. I helpu gyda hyn, mae nifer o fusnesau twristiaeth ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cofrestru gyda’r cynllun diogel rhag COVID cenedlaethol “barod amdani”, sy’n cydnabod y mesurau diogelwch o’r radd flaenaf sydd wedi eu rhoi mewn grym y tu ôl i’r llenni i roi sicrwydd i ymwelwyr tra’n parhau i ddarparu profiad gwych.

Mae un o barciau gwyliau mwyaf poblogaidd y Sir, Plassey yn Eyton sydd wedi ennill gwobrau, wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn barod i groesawu ymwelwyr yn ôl o’r penwythnos hwn.

Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Y Cynghorydd Terry Evans (Aelod Arweiniol yr Economi) a’r Cynghorydd David Bithell (Dirprwy Arweinydd CBSW) yn cyfarfod John Brookshaw ym Mharc Gwyliau Plassey.

Er gwaethaf ansicrwydd y misoedd diwethaf mae’r perchennog John Brookshaw wrth ei fodd o gael ailagor;

“Rydym wrth ein boddau o gael ailagor ac ni allwn aros i weld ein holl westeion hyfryd unwaith eto. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd iawn ac ar brydiau fe fu’n gyfnod hynod bryderus i’n busnes teuluol ac i’n tîm i gyd sy’n cynnwys dros 40 aelod o staff y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar Barc Gwyliau Plassey. I baratoi ar gyfer ailagor rydym hefyd wedi bod yn rhoi’r holl hyfforddiant a gweithdrefnau angenrheidiol mewn grym i sicrhau ein bod yn Ddiogel rhag Covid-19 ac yn cydymffurfio’n llawn, a gall ein gwesteion ddychwelyd i Plassey mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Yn Nyffryn Ceiriog mae gwesty enwog yr Hand yn Llanarmon yr wythnos hon wedi derbyn achrediad llawn gan gynllun cenedlaethol “Barod Amdani” a chynllun diogel rhag covid yr AA. Yn ystod y pandemig mae’r tîm hefyd wedi derbyn canmoliaeth uchel am yr ymdrechion i gefnogi’r gymuned leol drwy arallgyfeirio i ddarparu bwyd i fynd heb elw, gan ddarparu cyflenwadau hanfodol a chodi calonnau drwy eu negeseuon hwyliog ar y cyfryngau cymdeithasol.

Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Y Cynghorydd Terry Evans (Aelod Arweiniol yr Economi) a’r Cynghorydd Trevor Bates yn cyfarfod Jonathan Greatorex o Westy’r Hand yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

Fel lleoedd eraill gyda chyfleusterau awyr agored, mae’r Hand yn paratoi i ailagor yn ddiogel ddydd Llun, ac ychwanegodd y perchennog Jonathan Greatorex;

“Mae wedi bod yn bleser i fod ar gael i’n cymuned wledig, ynysig drwy gydol yr amser anodd hwn. Rydym wedi gweini miloedd o brydau dros yr 14 wythnos ddiwethaf a dwi’n wirioneddol falch o bopeth rydym wedi ei wneud. Mae Grant, ein Prif Gogydd, wedi gweithio’n ddiflino gyda bwydlen oedd yn newid yn ddyddiol i ddarparu bwyd i fynd ac rydym yn edrych nawr ar agor unwaith eto, a hynny yn ddiogel.”

Mae Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam, Sam Regan, wedi wynebu ei heriau ei hun wrth ailagor Bwyty gydag Ystafelloedd y Lemon Tree yn Wrecsam gyda’r rheoliadau a orfodir.

Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Y Cynghorydd Terry Evans (Aelod Arweiniol yr Economi) yn cyfarfod Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam a perchennog y Lemon Tree, Sam Regan.

Ychwanegodd Sam;

“Yn y Lemon Tree roeddem bron â chwblhau adeilad newydd ar gyfer 8 o ystafelloedd gwely ychwanegol ac roedd disgwyl i’r rhain ddechrau cael eu defnyddio ym mis Ebrill. Rhoddodd y cynnydd mewn twristiaeth leol yr hyder i ni i wneud y buddsoddiad hwn, felly mae’n mynd i fod yn hanfodol ein bod ni a busnesau twristiaeth lleol eraill wir yn dangos y mesurau diogelu rhag COVID o’r radd flaenaf yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed arnynt y tu ôl i’r llenni i sicrhau fod gwesteion yn dychwelyd mor ddiogel â phosibl o fis Awst. Fel Partneriaeth Twristiaeth rydym hefyd wedi ymgysylltu yn ddyddiol gyda Chroeso Cymru a busnesau twristiaeth ar draws yr ardal leol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chipolwg ochr yn ochr â’r Awdurdod Lleol i alluogi’r sector i godi’n ôl yn well ac arbed cymaint o swyddi â phosibl.

Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Y Cynghorydd Terry Evans (Aelod Arweiniol yr Economi) yn cyfarfod aelodau o staff y Fat Boar yn dilyn adnewyddu eu hardal fwyta awyr agored yng Nghanol Tref Wrecsam

Fe fu Aelod Arweiniol yr Economi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Terry Evans, yn cyfarfod gyda nifer o fusnesau twristiaeth ar draws yr ardal leol ddydd Gwener diwethaf a dywedodd;

“Mae wedi fy nharo cymaint o waith sydd wedi ei wneud y tu ôl i’r llenni gan yr holl fusnesau yr wyf wedi ymweld â nhw neu wedi ymgysylltu â nhw dros y misoedd diwethaf er mwyn cadw gwesteion yn ddiogel. Rydym wedi gweithio’n galed i geisio cael eglurder gan Lywodraeth Cymru i achub y sector hwn sy’n dod â dros £130m y flwyddyn i economi Wrecsam ac yn cefnogi dros 1,600 o swyddi llawn amser. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog ymwelwyr yn ôl i’r ardal mewn dull diogel a chyfrifol yr haf hwn i fwynhau nifer o’n hatyniadau yng nghanol y dref a’r atyniadau gwledig a’r lletygarwch eithriadol a gaiff ei gynnig yma ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam”.

Gyda’r rheol 5 milltir nawr yn caniatáu ymwelwyr yn ôl i Gymru a gyda’r sector awyr agored a hunan arlwyo yn ailagor yr wythnos hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhagweld dychweliad cyson o ran ymwelwyr dydd a’r rhai fydd yn cael gwyliau gartref. I gyd-fynd â hyn fe fydd Canolfan Groeso newydd a mwy yn agor yn Stryt Caer yn ddiweddarach yn yr Hydref. Bydd yn arddangos y gorau o’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig i ymwelwyr ochr yn ochr ag ystod eang o gynnyrch bwyd a diod lleol.

Social distancing sign
Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!
The Hand Llanarmon
The Lemon Tree
Fat Boar restaurant in Wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol isolated Oes gennych chi syniad i helpu’r rheiny sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned? Mae grantiau ar gael!
Erthygl nesaf McCarthy Distribution Clwb criced yn cael tamaid o lwc gyda McCarthy Distribution o Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg Ionawr 9, 2026
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori

Ionawr 9, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
London Euston
Busnes ac addysgPobl a lle

Diweddariad: sgyrsiau pellach am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Euston Llundain

Ionawr 5, 2026
JC Edwards Wall and Public Garden site
Pobl a lleArall

Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor

Rhagfyr 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English