Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Oes gennych chi syniad i helpu’r rheiny sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned? Mae grantiau ar gael!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Oes gennych chi syniad i helpu’r rheiny sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned? Mae grantiau ar gael!
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Oes gennych chi syniad i helpu’r rheiny sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned? Mae grantiau ar gael!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2020 11:27 am
Rhannu
Darllen 6 funud
isolated
RHANNU

Mae cynllun grant poblogaidd yn parhau i alw ar bobl i wneud cais am gyllid i helpu pobl sy’n ddiamddiffyn neu ar eu pen eu hunain yn eu cymunedau, yn enwedig y rheiny sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod eu hunain.

Crëwyd y Grant Cynhwysiant Cymunedol yn 2012 i wella bywydau pobl hŷn sy’n byw yn Wrecsam. Oherwydd y cyfyngiadau presennol mae yna nifer o bobl hŷn a phobl ddiamddiffyn sy’n teimlo’n fwy unig byth.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Mae’r cyllid eisoes wedi’i ddefnyddio i brynu nifer o iPads i helpu pobl sydd mewn perygl o fynd yn unig a methu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Hefyd, mae nifer o iPads wedi’u rhoi i bobl efo dementia. Mae’r iPads yn rhaff achub iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau ac i deimlo’n llai unig yn ystod cyfnod a all fod yn unig dros ben.

Diolch i’r grant mae llyfrgelloedd yn Wrecsam hefyd wedi gallu rhoi iPads i bobl sydd fel rheol yn defnyddio gwasanaethau llyfrgell ond, oherwydd y cau, y cyfyngiadau a diffyg technoleg gartref, sy’n methu â manteisio ar y cynnig digidol.

Meddai Vicky, Cymhorthydd Llyfrgell, “Rydw i wedi derbyn neges destun neis iawn gan un o ddefnyddwyr y llyfrgell yn dweud ei bod hi eisoes wedi defnyddio’r iPad i lawrlwytho llyfrau llafar, e-lyfrau a chylchgronau ar-lein.  Doedd hi ddim yn gwybod bod y rhain i gyd ar gael yn rhad ac am ddim o’r llyfrgell ac er bod ganddi liniadur roedd yn anhwylus ac felly doedd hi ond yn ei ddefnyddio i siopa ar-lein. Mae’r iPad wedi agor llawer o ddrysau newydd iddi i fyd o adloniant a chyfleoedd eraill.

Doedd hi ddim yn credu ei bod wedi cael iPad. Roedd hi’n teimlo’n ddiflas ac wedi hen alaru ar bob dim, ac wedi colli diddordeb mewn pethau. Doedd hi ddim chwaith wedi bod allan o’i fflat ers 13 Mawrth oherwydd ei hiechyd.”

Dywedodd Vicky fod y ddynes wedi dotio pan gafodd hi’r iPad, ac roedd hi’n edrych ymlaen iawn i’w ddefnyddio. Dywedodd ei bod hi’n teimlo fel Siôn Corn yn eu dosbarthu i bawb.

Mae’r panel fel rheol yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn i drafod y ceisiadau. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu’r grantiau, mae’r tîm yn cynnal cyfarfodydd ar-lein i’w trafod.

Hyd yma, mae’r cynllun wedi cefnogi cais i helpu’r gymuned Bortiwgeaidd yn Wrecsam i aros mewn cysylltiad tra’u bod yn ynysu ac i helpu pobl sydd heb fynediad at liniadur/cyfrifiadur neu’r rhyngrwyd i wneud siopa bwyd ar-lein. Mae’r cynllun hefyd wedi darparu grant i helpu Clwb Cinio Llannerch Banna ymestyn ei ddarpariaeth wrth i’r galw am giniawau gan Ganolfan Enfys Llannerch Banna gynyddu ac arnyn nhw angen cymorth i ddarparu mwy o grochanau bwyd poeth yn ogystal â darparu mwy o gymorth i’r gwirfoddolwyr sy’n danfon y bwyd i’r ardaloedd cyfagos. Mae’r grant yn golygu eu bod nhw rŵan yn gallu danfon bwyd i ardal fwy.

Meddai’r Cyng. Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol neu unigolion dderbyn cyllid i’w helpu nhw gynnal eu prosiectau neu i wireddu eu syniadau. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n edrych ar ôl ein gilydd, yn enwedig yn y sefyllfa sydd ohoni, ac mae’r grant hwn yn canolbwyntio ar y rheiny yn ein cymuned sydd fwyaf tebygol o deimlo’n unig. Hoffaf annog grwpiau ac unigolion gyda syniadau i gysylltu â’r tîm a chael sgwrs am y cyllid sydd ar gael.”

Oes gennych chi syniad neu oes arnoch chi angen cymorth ariannol ychwanegol i gyflawni prosiect a fydd yn helpu pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned, yn enwedig yn y sefyllfa anodd sydd ohoni?

Mae rhwng £200 a £2,500 ar gael i sefydlu neu gynnal gweithgareddau cynaliadwy yn y gymuned sy’n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd (gyda ffocws ar ardaloedd gwledig), trwy gefnogi pobl i gynnal neu adennill cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn eu cymuned.

Mae ailgysylltu unigolion hŷn a diamddiffyn sy’n ynysig ac unig yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles emosiynol; mae hyn hefyd yn cefnogi’r gymuned drwy ddarparu cyfalaf economaidd a chymdeithasol.,

Am fwy o wybodaeth, meini prawf a ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm yn defnyddio’r manylion isod:

Cysylltu â’r tîm

Gellir gofyn am ffurflenni cais drwy e-bost neu ffonio.

Cysylltwch â’r tîm comisiynu ar: 01978 292066 am sgwrs neu i gael mwy o wybodaeth.

Mae ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael trwy anfon e-bost i: commissioning@wrexham.gov.uk

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Be Active Cyfleusterau chwaraeon a hamdden y Cyngor a Freedom Leisure – pryd maen nhw’n ailagor?
Erthygl nesaf The Plassey Wrexham Busnesau Twristiaeth Wrecsam yn Barod Amdani yr Haf hwn!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English