Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnesau Wrecsam yn cael eu hannog i gefnogi Ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Busnesau Wrecsam yn cael eu hannog i gefnogi Ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel
Y cyngor

Busnesau Wrecsam yn cael eu hannog i gefnogi Ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 10, 2022 1:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Busnesau Wrecsam yn cael eu hannog i gefnogi Ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel
RHANNU

Rydym yn annog busnesau, mawr a bach, ar hyd a lled Wrecsam i gefnogi ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel Caru Cymru.

Mae’r ymgyrch wedi ei chynllunio i annog busnesau i gadw eu cymunedau yn ddi-sbwriel ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd na fydd sbwriel hyll yn cael ei oddef mwyach.

Caiff busnesau eu hannog i gofrestru eu diddordeb ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus a helpu i gadw eu hardal leol yn ddi-sbwriel drwy sesiynau codi sbwriel rheolaidd.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Gall busnesau un ai ddefnyddio eu Canolbwynt Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus agosaf i fenthyg offer neu fe allant brynu eu cyfarpar eu hunain ar raddfa ostyngol gan Helping Hand Environmental sy’n cefnogi’r cynllun.

Fel rhan o’r addewid cofrestru, fe ofynnir i’r holl fusnesau sy’n cymryd rhan i adrodd yn rheolaidd y math a chyfanswm y sbwriel a gesglir drwy ddefnyddio’r system Epicollect. Y nod yn y pendraw yw cymuned lanach a harddach, gyda synnwyr cryf o falchder cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae busnesau yn rhan o’n cymunedau ac rwy’n galw arnynt i gymryd rhan yn y fenter ragorol hon.

“Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach yw’r busnes, maent i gyd yn bwysig ac fe allant i gyd wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.”

“Rydym i gyd eisiau gweld Wrecsam sy’n lanach ac yn wyrddach ac fe allwn i gyd chwarae rhan mewn cyflawni hyn un ai drwy ein gwaith, ein hamdden neu drwy ddim ond defnyddio bin sbwriel ac annog pawb i wneud yr un fath.”

Wrth siarad am yr ymgyrch dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydym wir yn gobeithio y bydd busnesau ar hyd a lled Cymru yn ymuno i gefnogi’r achos teilwng hwn. Mae ein hymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel yn darparu ystod o gyfleoedd i gyflogwyr i ymgysylltu ac annog eu staff i wirfoddoli dim ond ychydig o oriau y mis.  Dod yn rhan o’r ymgyrch yw’r ffordd ddelfrydol i wneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned, gan helpu nid yn unig i ddiogelu ein hamgylchedd ond hefyd i’w gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Fe all unrhyw fusnes sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymgyrch ymweld â gwefan Cadwch Gymru’n Daclus i gofrestru eu diddordeb neu i lawrlwytho’r pecyn Ardaloedd Di-sbwriel sy’n darparu gwybodaeth lawn ar sut i gofrestru (dolen).

Mae’r cynllun wedi ei ariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cadwch eich cŵn o dan reolaeth yn ein parciau gwledig Cadwch eich cŵn o dan reolaeth yn ein parciau gwledig
Erthygl nesaf Armed Forces Day Cadwch y dyddiad! Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Wrecsam ym mis Mehefin 2022

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English