Daeth cyflogwyr ac entrepreneuriaid lleol at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad arbennig a drefnwyd gan Gyngor Wrecsam, o ganlyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd y gynhadledd Elevate your Business yng Ngwesty’r Ramada Plaza yn Wrecsam, a ddenodd cynulleidfa o dros 100 o bobl – gyda mynychwyr yn cynrychioli ystod eang o sectorau gan gynnwys manwerthu, lletygarwch a gwasanaethau proffesiynol.
Rheolwyd y digwyddiad gan dîm busnes a buddsoddi’r Cyngor, sy’n cefnogi datblygiad economaidd y fwrdeistref sirol.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi a Thwristiaeth: “Roedd yn ddigwyddiad gwych a diddorol iawn a ddaeth â busnesau o bob lliw a llun at ei gilydd i ffurfio cysylltiadau, dysgu a rhannu syniadau.
“Roedd y gynhadledd yn rhan o’n gwaith i ddatblygu economi lleol mwy llewyrchus ac arloesol sy’n glyfar, yn gysylltiedig ac yn wydn, gyda chadwyni cyflenwi lleol cryf.
“Roedd yn ddiwrnod cynhyrchiol iawn ac rwy’n falch bod y gynhadledd wedi creu awyrgylch gyffrous iawn. Rydym wedi derbyn adborth gwych gan y mynychwyr a oedd yn teimlo eu bod wedi cael eu hysbrydoli, eu cymell ac wedi cael safbwynt hollol newydd.”
Mae pethau’n argoeli’n dda ar gyfer Wrecsam….
Arweiniwyd y digwyddiad gan Jon Cannock-Edwards o The Uncommon Practice.
Cafwyd cyflwyniad ysbrydoledig gan Christian Majgaard, a oedd yn arfer bod yn Bennaeth Brand Byd-eang a Datblygu Busnes gyda LEGO, a oedd yn llawn gwersi personol o’i yrfa nodedig.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, yn ogystal â nifer o arweinwyr busnes lleol uchel eu parch; Caroline Platt o Platts Agriculture, Darren Gallop a Lisa Bellis o The Very Group, Mike Mccarthy o McCarthy Distribution, John Droog a Mel Whitley o Marlin Industries, a Craig Weeks o JCB Transmissions; a lansiodd Cynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam yn swyddogol.
Meddai’r Cynghorydd Williams: “Mae nifer o gwmnïau’n awyddus i fuddsoddi yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac nid yw hynny’n syndod – mae’r fwrdeistref sirol ar agor ar gyfer busnes ac mae pethau’n argoeli’n dda i’r dyfodol, ac mae ar bobl eisiau bod yn rhan o’r llwyddiant.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad – roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig tu hwnt ac yn hysbyseb gwych i Wrecsam.”
Gwylio’r cyflwyniadau allweddol…
Os ydych chi’n fusnes lleol, gallwch elwa o’r gynhadledd drwy gofrestru i dderbyn fideos a chyflwyniadau.
Byddwch hefyd yn derbyn copi o becyn y gynhadledd, sy’n cynnwys nifer o ostyngiadau a chymhellion gan fusnesau lleol.