Yr wythnos hon byddwn yn edrych yn fanylach ar y manteision o ddiffodd y golau pan fyddwch yn gadael ystafell.Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, mae diffodd goleuadau pan nad oes arnoch eu hangen neu pan fyddwch chi’n mynd allan o’r ystafell yn gallu eich helpu chi i arbed £7 y flwyddyn oddi ar eich biliau ynni. Mae diffodd goleuadau hefyd yn gallu gwella effeithlonrwydd ynni, cynyddu oes bylbiau, lleihau allyriadau carbon a chael gwared ar lygredd golau sy’n niweidio bywyd gwyllt a phobl.
Bydd dewisiadau rheoli goleuadau hefyd yn cynyddu’r arbedion ymhellach. Mae switshis pylu neu synwyryddion symudiadau yn helpu i leihau’r defnydd o ynni a chynyddu’r arbedion drwy fanteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd goleuadau. Mae switshis pylu er enghraifft yn gadael i chi reoli faint o olau rydych chi’n ei ddefnyddio, gan eich helpu chi i ddefnyddio llai o drydan a phŵer.
Am fwy o wybodaeth ewch i: Is It Bad For The Environment To Leave Lights On? – Climate Cafes