Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun Wrecsam ar gyfer ‘dinas glyfar’ yn ennill gwobr genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cynllun Wrecsam ar gyfer ‘dinas glyfar’ yn ennill gwobr genedlaethol
Y cyngor

Cynllun Wrecsam ar gyfer ‘dinas glyfar’ yn ennill gwobr genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 3, 2024 2:21 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RTPI award
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gynlluniau i ddatblygu’r defnydd o dechnoleg i helpu i reoli a gwella canol y ddinas.

Llwyddodd y Cyngor i guro cystadleuaeth o bob rhan o Gymru i ennill gwobr Excellence in Plan Making gan Royal Town Planning Institute (RTPI).

Mae’r wobr yn cydnabod ymarfer ardderchog wth lunio cynlluniau a fydd yn helpu i siapio dyfodol trefi a dinasoedd – yn enwedig cynlluniau sydd yn unigryw ac arloesol.

Fe enillodd y Cyngor y wobr yn sgil ei Gynllun Lleoedd Digidol, a gafodd ei lunio i gefnogi siwrnai Wrecsam i fod yn ‘ddinas glyfar’ – lle mae technoleg yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant, gwella’r broses o reoli traffig, arbed ynni a chreu strydoedd sydd yn fwy glân a diogel.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cyngor Wrecsam: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth ardderchog i’r Cyngor ac mae’n tynnu sylw at ein harbenigedd o ran llunio cynlluniau arloesol sydd wedi’u cynllunio’n dda ar gyfer canol y ddinas.

“Fe hoffwn i ddiolch i staff am eu gwaith caled a dwi’n edrych ‘mlaen at weld y Cynllun Lleoedd Digidol yn siapio dyfodol Wrecsam.”

Cafodd y Cynllun Lleoedd Digidol ei fabwysiadu gan Bwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad y Cyngor yn fuan yn 2023, gan roi cychwyn ar nifer o fentrau yn cynnwys lansio ap ymwelwyr i ganol y ddinas o’r enw VZTA (gellir ei lawrlwytho o’r App Store neu Google Play).

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi: “Ers i’r cynllun gael ei fabwysiadu, mae Wrecsam wedi gwneud camau breision gyda’i ddyhead o fod yn ddinas cwbl glyfar.

“Mae Wrecsam yn arwain y ffordd yng Nghymru fel dinas glyfar, ac yn ddiweddar cafodd ei dewis i gynnal y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar gyfer trefi clyfar, a daeth dros 100 o gwmnïau ac awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru i’r digwyddiad yn Nhŷ Pawb.

“Mae ein gwaith hefyd wedi cael ei gydnabod a chael sylw gan asiantaethau’r wasg yn rhyngwladol.

“Mae’r Cynllun Lleoedd Digidol yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn ymarferol ac rydw i wrth fy modd fod ei ansawdd wedi cael ei gydnabod gan RTPI.

“Diolch yn fawr i bob Swyddog sydd wedi bod yn rhan wrth gyflwyno’r cynllun hwn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Comedy Night Noson Gomedi Tŷ Pawb gyda Robin Ince (Gorffennaf)
Erthygl nesaf Bwletin arbed ynni 4: Diffodd y golau pan fyddwch yn gadael ystafell Bwletin arbed ynni 4: Diffodd y golau pan fyddwch yn gadael ystafell

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English