Yr wythnos hon, byddwn yn edrych yn fwy manwl ar y manteision o olchi dillad pan fydd llwyth llawn yn unig. Mae golchi dillad pan fydd llwyth llawn yn unig yn cyfyngu ar angen i wneud sawl llwyth. Fodd bynnag, peidiwch â gorlwytho eich peiriant, gall hyn achosi i’r glanedydd staenio dillad, yn ogystal ag effeithio ar effeithlonrwydd golchi ac achosi difrod i’r drwm yn y pen draw. Os nad ydych yn gallu rhoi eich llaw ar dop drwm y peiriant, mae’n rhy llawn.
Mae golchi eich dillad ar dymheredd o 30 gradd Celsius yn lle 40 gradd Celsius yn defnyddio hyd at 38% yn llai o ynni, felly nid yn unig ydych chi’n arbed ar gostau cyfleustodau, rydych hefyd yn chwarae eich rhan i leihau’r straen ar ein cyflenwad ynni cenedlaethol.
I gael rhagor o wybodaeth am arbed ynni drwy ddefnyddio eich peiriant golchi, ewch i: Save energy when using your washing machine – Energy Saving Trust