Yn dilyn ymlaen o’r wythnos ddiwethaf, byddwn yn edrych yn fwy manwl ar effeithiau sychu dillad yn naturiol yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad. Mae peiriannau sychu dillad yn defnyddio llawer iawn o ynni. Maent yn defnyddio rhwng 1,800 a 5,000 watt o drydan fesul cylched. O ganlyniad, fe allai osgoi defnyddio peiriant sychu dillad a sychu eich dillad ar hors ddillad tu mewn, neu tu allan mewn tywydd cynnes, arbed £50 y flwyddyn i chi. Yn ogystal â’r manteision amgylcheddol o sychu dillad yn naturiol, mae llawer iawn o fanteision o ran y dillad eu hunain. Er enghraifft, mae dillad yn para’n hirach heb draul y peiriant sychu dillad. Mae sychu’n naturiol hefyd yn helpu i osgoi’r risg o ddillad yn mynd i mewn wrth sychu, ac mae awyr iach yn rhoi arogl ffres a glân ar eich dillad.
am fwy o wybodaeth ewch i: Is air-drying clothes better for the environment? – WABLU Laundry Sheets