(1) Pwrpas a Chefndir
Yn 2021-22, cyflwynodd Sir Wrecsam gais ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2025.
Mae Dinas Diwylliant y DU yn rhaglen ar gyfer y DU cyfan, ac fe’i datblygwyd ar y cyd â gweinyddiaethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cynhelir y gystadleuaeth gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant a Chwaraeon (DCMS), gan wahodd lleoedd ledled y DU i osod eu gweledigaeth ar gyfer adfywio a arweinir gan ddiwylliant a gynhelir bob pedair blynedd.
Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2025 yn dilyn llwyddiant dinasoedd buddugol blaenorol: Coventry yn 2021, Hull yn 2017 a Derry-Londonderry yn 2013.
Yn y broses o ymgeisio yn 2025, daeth Wrecsam yn ail ac mae CBSW wedi darparu ymrwymiad i ymgeisio ar gyfer Dinas Diwylliant 2029.
Mae Bwrdd Dinas Diwylliant Dros Dro bellach yn cael ei sefydlu i oruchwylio a llywio’r gwaith ar gyfer ymgyrch Dinas Diwylliant Wrecsam o ddechrau 2023 i sefydlu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol a Chymunedol newydd y disgwylir i’w sefydlu yn gynnar yn 2024.
Bydd unigolion yn benthyg sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol tuag at y broses o wneud penderfyniadau allweddol, dyfeisio strategaeth a chyfeiriad cyffredinol a naratif ymgyrch Wrecsam2029.
Bydd gan y Cyngor swydd flaenllaw wrth sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol Ddiwylliannol. Ar ôl ei sefydlu, mae disgwyl y bydd yr Ymddiriedolaeth yn arwain ar wneud cais ffurfiol ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029.
(2) Amcanion
- Defnyddio’r ystod berthnasol o sgiliau i ddechrau’r llunio a siapio cais ar gyfer Dinas Diwylliant yn 2025 (mae’r broses ymgeisio yn agor yn 2025).
- Goruchwylio a gwerthuso’r gwaith ar gyfer Dinas Diwylliant yn 2023 gan gynnwys datblygu rhaglen o weithgareddau, gan ein harwain drwodd i’r cais yn 2025.
- Goruchwylio’r trefniadau ar gyfer sefydlu Bwrdd annibynnol a chreu Ymddiriedolaeth lawn.
- Gwneud argymhellion i gefnogi ac adnabod blaenoriaethau i ddatblygu’r strategaeth ar gyfer Dinas Diwylliant yn y dyfodol.
- Cyfrannu at berfformiad ansoddol a meintiol a chanlyniadau cynnydd.
- Datblygu cyfathrebu a phartneriaeth gan weithio’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar draws gwahanol elfennau gweithredol Dinas Diwylliant.
- Dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau i gyfrannu at fanteision diwylliannol, economaidd a chymdeithasol Dinas Diwylliant.
- Gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i gydweithio, gweithio mewn partneriaeth a chryfhau cysylltiadau rhyngwladol.
- Annog pobl leol yn weithredol i gyflawni a datblygu Dinas Diwylliant yn barhaus.
- I weithio ochr yn ochr â’r Cyngor i adnabod a datblygu yn ôl y gofyn, Ymddiriedolaeth Gymunedol Ddiwylliannol i oruchwylio cais ac ymgyrch Dinas Diwylliant.
(3) Aelodaeth a Ffyrdd o Weithredu
- Mae Joanna Swash, Prif Swyddog Gweithredol Moneypenny, wedi’i phenodi’n Gadeirydd Dros Dro.
- Bydd bwrdd dros dro o 8-12 o bobl yn cael eu penodi i ddarparu arweinyddiaeth. Bydd angen amrywiaeth o sgiliau a gwerthoedd priodol fel y diffinnir yn y swydd ddisgrifiad.
- Gall Aelodau o’r Bwrdd Dros Dro fod yn gynrychiolwyr o gymuned Bwrdeistref Sirol Wrecsam a / neu gymunedau o ddiddordeb gyda’r sgiliau a’r profiad priodol i gefnogi swyddogaethau allweddol y Bwrdd Dros Dro.
Dylai cynrychiolaeth ar gyfer y Bwrdd Dros Dro ddeillio o bob un o’r sectorau canlynol:
- Celfyddydau a Diwylliant
- Unigolion gyda Chysylltiadau Rhyngwladol
- Busnes, Diwydiant, Lletygarwch a Thwristiaeth
- Addysg a Sgiliau
- Cyrff Cyhoeddus e.e. Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru
- Gweithwyr Proffesiynol yn y Cyfryngau
4. Bydd y bwrdd dros dro yn gweithio’n agos â CBS Wrecsam sy’n dal yr adnoddau a’r cyllid ar gyfer y gwaith dros dro hwn ac felly’n atebol am lywodraethu cyffredinol
5.Bydd y Bwrdd yn cyfarfod tua 6-10 gwaith y flwyddyn, y bwriedir ei benderfynu ar ôl i’r Bwrdd ffurfio
6.Nid yw bod yn aelod o’r Bwrdd Dros Dro yn gwarantu penodiad i’r Bwrdd annibynnol llawn pan fydd hyn yn cael ei ffurfio yn gynnar yn 2024
7.Bydd y Bwrdd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Swyddogion CBSW
8.Gall y Bwrdd Dros Dro ceisio cyd-ddewis Aelodau eraill yn ôl y gofyn i fodloni pwrpas penodol.
9.Cworwm fydd 6 Aelod o’r Bwrdd Dros Dro, naill ai bydd presenoldeb wyneb yn wyneb neu o bell yn cael ei dderbyn.
10.Anogir presenoldeb ym mhob cyfarfod. Lle nad yw Aelod yn gallu dod i ymddiheuro dylid ei anfon at y Gadair a phan fo angen dylai dirprwy addas gyda sgiliau a phrofiad tebyg fod yn bresennol. Dylid rhoi rhybudd 24 awr ymlaen llaw o unrhyw ddirprwy bresenoldeb.
11.Gall y Bwrdd Dros Dro ddileu unrhyw swyddog neu Aelod nad yw’n mynychu am 3 cyfarfod yn olynol heb ganiatâd. Sylwch na fydd anfon dirprwy yn dileu risg o gael ei dynnu oddi ar y Bwrdd. Gall y Bwrdd Dros Dro gael gwared ar unrhyw Aelod sy’n rhwystro busnes y Bwrdd Dros Dro yn barhaus neu sydd, yn dilyn ymchwiliad priodol a hawl i ateb, wedi torri’r safonau a ddisgwylir o aelodaeth.
(4) Rolau Aelodau
- Bydd gofyn i aelodau’r Bwrdd Dros Dro ddangos y sgiliau a’r profiad proffesiynol priodol sydd eu hangen i gymryd rôl weithredol o fewn y bwrdd. Bydd gofyn i’r aelodau gwmpasu’r meysydd canlynol:
- Cyfraniad tuag at naratif Dinas Diwylliant Wrecsam a chyflwyniad y cais
- Datblygiad Rhaglen
- Cynllunio Busnes, Codi Arian a Rheoli Ariannol
- Marchnata a Chyfathrebu
- Arweiniad a Strategaeth
- Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Chydraddoldeb
- Llywodraethu a Chyfreithiol
2. Bydd darpar Aelodau Bwrdd Dros Dro yn cael eu gwahodd i gyflwyno datganiadau ysgrifenedig o ddiddordeb i gefnogi’r meini prawf a nodir uchod. Bydd y panel, sy’n cynnwys aelodau o Grŵp Gweithredol Dinas Diwylliant, yn cyrraedd y rhestr fer o’r cyflwyniadau ysgrifenedig ac yn cynnal cyfweliadau cyn cadarnhau’r detholiadau terfynol.
(5)Adrodd ac Atebolrwydd
1. Yn y lle cyntaf ni fydd y Bwrdd Dros Dro yn cael ei sefydlu gyda statws cyfreithiol ac felly ni all ymrwymo i gontractau, dal cyllideb neu gael ei chynnal yn gyfreithiol atebol. Bydd yr holl gyfrifoldebau sy’n ymwneud â Dinas Diwylliant yn gorwedd gyda’r Cyngor nes ffurfio’r Ymddiriedolaeth lawn yn gynnar yn 2024.
2. Nid yw’r Bwrdd yn un o bwyllgorau’r Cyngor.
3. Bydd y Bwrdd yn gwneud argymhellion i lywio dull y Cyngor o ymdrin â materion sy’n effeithio ar Ddinas Diwylliant drwy Graffu (fel y gofynnwyd amdano) ac i’r Aelod Arweiniol perthnasol sy’n gyfrifol am gyflwyno adroddiadau i’r Byrddau Gweithredol. Nid yw’r Cyngor yn sicr o dderbyn argymhellion gan y Bwrdd Dros Dro ac mewn achosion o’r fath bydd yr Aelod Arweiniol perthnasol yn gyfrifol am adrodd yn ôl i’r Bwrdd i egluro sefyllfa’r Bwrdd Gweithredol.
4. Bydd gan aelodau llawn (gan gynnwys dirprwyon) y Bwrdd Dros Dro hawliau pleidleisio. Bydd y mwyafrif yn cytuno ar fusnes y Bwrdd ac mewn sefyllfaoedd lle na ellir dod i ganlyniad mwyafrif bydd y Cadeirydd yn cael y bleidlais fwrw.
5. Gall y Bwrdd Dros Dro wahodd pobl nad ydynt yn Aelodau i fynychu a chyfrannu at eitemau penodol ar yr agenda yn ôl y gofyn.
6. Ni fydd aelodau’n gymwys i gael ad-daliad o amser na threuliau ar gyfer mynychu cyfarfodydd arferol y Bwrdd Dros Dro. Yn yr achosion hynny lle mae’n briodol i Aelod fynychu digwyddiad neu swyddogaeth benodol allan o’r fwrdeistref sirol ac ar ran y Bwrdd Dros Dro / Dinas Diwylliant, bydd costau rhesymol yn cael eu bodloni gan y Cyngor.
(6) Amlder Cyfarfodydd
- Bydd y Bwrdd Dros Dro yn cyfarfod bob deufis, ac wedi hynny, mor aml ag y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol ond bydd yn galw o leiaf 6 cyfarfod y flwyddyn.
(7) Tryloywder a Safonau
- Bydd aelodaeth y Bwrdd yn cynnal ac yn hyrwyddo Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan).
- Anhunanoldeb
- Cywirdeb
- Gwrthrychedd
- Atebolrwydd
- Didwylledd
- Gonestrwydd
- Arweinyddiaeth
2. Disgwylir i aelodau’r Bwrdd Dros Dro ddatgan diddordeb mewn unrhyw eitem dan ystyriaeth os oes ganddynt ddiddordeb personol neu answyddogol. Yn yr amgylchiadau hyn ac yn dibynnu ar y math o ddiddordeb a ddatganwyd, efallai y bydd yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r cyfarfod.
3. Bydd y Bwrdd Dros Dro yn ystyried deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Cydraddoldeb 2010, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011