Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod

Diweddarwyd diwethaf: Awst 8, 2025 9:58 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Exterior of Wisteria Court
RHANNU

Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Trydedd Rownd o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod

Mae adran Tai Cyngor Wrecsam wedi cwblhau mwy o waith adnewyddu ar eu stoc dai gwarchod.

Mae buddsoddiad sylweddol o oddeutu 21.6 miliwn wedi ariannu gwaith adnewyddu llwyddiannus i’r stoc Tai Gwarchod mewn pedwar lleoliad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gwaith adnewyddu Tai Gwarchod bellach wedi’i gwblhau yn Llai (Tir y Capel), Rhos (Llys y Mynydd), Coed-poeth (Maes y Capel), gyda’r diweddaraf yn Wisteria Court, Wrecsam.

Cafwyd hefyd gyfanswm o 1 filiwn o gyllid grant at y gwaith adnewyddu ar gyfer mesurau fel ffenestri gwydr triphlyg a phympiau gwres ffynhonnell aer. 

Mae’r gwaith adnewyddu diweddaraf (Wisteria Court, Wrecsam) yn darparu 26cartrefi cynnes, ynni-effeithlon a chyfforddus, sy’n i helpu’r genhedlaeth hŷn i fyw’n annibynnol.

Mae Wisteria Court yn cynnig amgylchedd cartrefol ac ardal gymunedol eang a modern, a gerddi wedi’u tirlunio sy’n annog cymdeithasu i anelu at leihau ynysigrwydd. 

Yn debyg i’r adnewyddiadau eraill, mae Wisteria Court yn cynnwys pwyntiau gwefru trydan, siopau sgwteri, ardal teras to a llawer mwy gan foderneiddio’r ffordd o fyw. 

Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod

Mae mynediad gwastad gan yr holl unedau sydd wedi’u hadnewyddu, ac mae cynllun yr adeiladau wedi’i wella er gwell symudedd i’r sawl sy’n defnyddio sgwter. 

Dywedodd deiliad contract o Faes y Capel, a adnewyddwyd yn ddiweddar, “dw i wrth fy modd ac wedi gwirioni efo fy nghartref newydd. Roeddwn i ychydig yn amheus pan ddywedwyd wrthyf ei fod yn mynd i fod yn gynllun agored, ond mi wnes i ddod i arfer ag o’n syth a dwi wedi gwirioni efo fo. Mae’r gwasanaeth warden yn ddefnyddiol iawn ac mae pawb sy’n cymryd rhan wedi bod yn anhygoel.” 

Mae effeithlonrwydd ynni wedi’i ystyried a gosodwyd Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer a ffenestri gwydr triphlyg. Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn cynnig gwres cyson a chyfforddus ar gyfer pob tymor, gydag arbedion cost hirdymor posibl. 

Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod

Mae’r pedwar safle adnewyddu wedi dilyn dyluniad cyson, gyda’r holl waith adeiladu wedi’i wneud gan Read Construction.

Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction, “Wedi’i gyflwyno drwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, mae adnewyddu Wisteria Court yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, sy’n barod i’r dyfodol sy’n gwasanaethu anghenion y gymuned. 

“Trwy ymgorffori technolegau cynaliadwy a chreu mannau hygyrch, cymdeithasol, rydym wedi helpu i drawsnewid y safle yn amgylchedd diogel, modern sy’n cefnogi byw’n annibynnol ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol. 

“Mae Cyngor Wrecsam yn gleient cyson a gwerthfawr, ac rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda nhw unwaith eto i gyflawni prosiect sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd “Rydym wrth ein bodd i ddatgelu ein pedwerydd safle adnewyddu o’n stoc Tai Gwarchod mewn cydweithrediad â Reads Construction. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn wedi arwain at waith adnewyddu o ansawdd uchel ar bedwar safle gan helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol.  Edrychaf ymlaen at weld trigolion yn ymgartrefu yn eu cartrefi ar eu newydd wedd, yn Wisteria Court.”

Ar ôl gweld yr uned dai gwarchod Wisteria Court a adnewyddwyd yn ddiweddar, dwedodd Cynghorydd Brynyffynnon, Phil Wynn , “Bydd y fflatiau un a dwy ystafell wely ar eu newydd wedd, a’r lolfa gymunedol groesawgar a’r ardd deras, rwy’n siŵr, yn taro’r cydbwysedd cywir o breifatrwydd a lle ar gyfer cysylltiad cymdeithasol ar gyfer chwech ar hugain o ddeiliaid contract y dyfodol. 

“Mae’r buddsoddiad yn y prosiect hwn gan Adran Tai CBSW yn ymrwymiad clir i gefnogi aelodau hŷn o’n cymuned gyda thai a gofal o safon.  Edrychaf ymlaen at y diwrnod agoriadol swyddogol i glywed barn deiliaid y contractau.”

A fyddech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn elwa o Lety Tai Gwarchod? 

Nid yw’r un peth â chartref preswyl neu nyrsio, ac mae gan bob tenant fflat, fflat bach neu byngalo heb ei ddodrefnu ei hun gyda chymorth warden wrth law, a chyfle i gymdeithasu yn yr ardaloedd cymunedol.

Gallech fod yn gymwys i fyw mewn tŷ gwarchod os ydych dros eich 60 oed. Os ydych dros eich 55 oed ac mae gennych “angen cymorth profedig” efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais hefyd.

Gallai tai gwarchod fod yn iawn i chi os ydych chi…

  • Eisiau cadw eich annibyniaeth, ond hoffech fod y tawelwch meddwl o gael gwasanaeth cymorth proffesiynol ar gael pan fo angen
  • Yn mwynhau cymysgu â phobl eraill pan ddymunwch
  • Ar hyn o bryd yn byw mewn llety sy’n rhy fawr i’ch anghenion

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar ein gwefan

Rhannu
Erthygl flaenorol Road maintenance Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Erthygl nesaf Family Teulu Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English