Mae uwch gynghorwyr ar fin trafod cynlluniau i fabwysiadu dau bolisi budd-daliadau newydd ar gyfer ein gofalwyr maeth ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Bydd Cynllun Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor ar gyfer gofalwyr maeth a’r polisi Cefnogi Maethu ar gyfer staff Cyngor Wrecsam yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 10 Mawrth.
Byddai Cynllun Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor yn caniatáu i bob gofalwr maeth a gymeradwywyd gan Gyngor Wrecsam fod yn gymwys i gael gostyngiad o 75% yn eu treth gyngor net. Y nod yw annog darpar ofalwyr maeth sy’n byw yn ardal Wrecsam i wneud cais gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hytrach nag Asiantaethau Maethu Annibynnol. Byddai’r polisi hwn hefyd yn gwneud bod yn ofalwr maeth i Gyngor Wrecsam yn fwy deniadol i ddarpar ofalwyr maeth ac yn sicrhau bod plant lleol yn cael eu cadw yn ardal Wrecsam sy’n hanfodol i’w synnwyr o hunaniaeth ac yn sicrhau parhad o ran addysg, iechyd a’r gymuned.
Bydd y cynghorwyr hefyd yn trafod polisi cefnogi maethu ar gyfer Staff Cyngor Wrecsam. Byddai’n golygu y bydd gan holl weithwyr y cyngor sy’n cael eu cymeradwyo neu sy’n cael eu hasesu fel gofalwyr maeth gyda Chyngor Wrecsam hawl i hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol i’w galluogi i fynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi perthnasol yn eu rôl fel gofalwyr maeth.
Bydd y polisïau hyn yn cynorthwyo gyda recriwtio a chadw gofalwyr maeth sy’n byw yn Wrecsam a byddant yn lleihau nifer y plant sy’n cael eu lleoli gydag asiantaethau maethu annibynnol y tu allan i’r fwrdeistref sirol. Bydd hefyd yn gwella’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn lleihau’r goblygiadau ariannol a’r adnoddau o ran plant yn cael eu rhoi mewn darpariaeth allanol a lleoliadau ‘y tu allan i’r fwrdeistref’.
Bydd hefyd yn darparu gwobrau a budd-daliadau sy’n cynorthwyo i recriwtio gweithwyr y cyngor yn ogystal â gwella cadw gofalwyr maeth cyfredol.
Os hoffech ddarllen y rhaglen yn ei chyfanrwydd, gallwch wneud hynny yma.
Cofiwch y dyddiad: 10 Mawrth yn Neuadd y Dref.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod. Mae’r cyfarfod hefyd yn cael ei we-ddarlledu a gallwch wylio’n fyw yma
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN