Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bwrdd Gweithredol Medi 2021 – cip ar y rhaglen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bwrdd Gweithredol Medi 2021 – cip ar y rhaglen
Y cyngor

Bwrdd Gweithredol Medi 2021 – cip ar y rhaglen

Diweddarwyd diwethaf: Medi 20, 2021 8:04 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Children's Services
RHANNU

Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod bore yfory am 10am ac mae ganddynt sawl eitem i’w trafod.

Yn gyntaf mae Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2020/21 a bydd aelodau’n derbyn yr adroddiad sy’n amlinellu’r gwaith a wnaed gan y partneriaid drwy gydol y flwyddyn, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr ymdrechion anhygoel gan bawb oedd yn rhan o ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau partner sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella lles pobl a chymunedau ar draws Gogledd Cymru fel sydd angen dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gofynnir i aelodau’r Bwrdd Gweithredol nodi cynnydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 12 mis diwethaf.

Gellir cael golwg ar yr adroddiad blynyddol yma.

Yna, gofynnir i aelodau gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21.

Mae’r adroddiad blynyddol yn ofyniad cyfreithiol a rhaid iddo gyfeirio at Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant. Mae’r adroddiad yn cynnwys adolygiad o berfformiad a hefyd diweddariad ar y blaenoriaethau gwella a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Mae hefyd yn nodi’r meysydd gwella ar gyfer y flwyddyn ganlynol (2021/22).

Yna gofynnir i aelodau gymeradwyo cynllun trwyddedu ychwanegol 5 mlynedd arall ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn dilyn ymgynghoriad diweddar.

Mae’r cynllun trwyddedu ychwanegol yn ceisio gwella amodau tai a safonau rheoli mewn Tai Amlfeddiannaeth ledled Wrecsam.

Ystyrir hefyd a ddylid cymeradwyo les 25 mlynedd i Glwb Pêl-droed Rhostyllen.

Bydd y les ar dir oddi ar Ffordd Vicarage a reolir ar hyn o bryd gan ein Hadran Amgylchedd a Thechnegol.

Os cytunir ar y les, bydd y clwb pêl-droed yn gallu cael cyllid a sicrhau mynediad at ffrydiau gwahanol o gyllid er mwyn gwella’r cyfleusterau yn yr ardal er lles y clwb a’r gymuned leol.

Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar-lein bore yfory am 10am a gallwch wylio ar-lein yma neu wylio’r gweddarllediad ar adeg fwy cyfleus.

Gallwch gael cip ar y Rhaglen yma.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Residents are getting to know RITA in care homes across Wrexham Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Erthygl nesaf Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha. Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English