Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.
Pobl a lle

Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: Medi 16, 2021 1:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.
RHANNU

Mae Cymru eisoes yn drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ac mae’r Ymgyrch Gwych i’n cael i rif 1 yn parhau ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2021 rhwng 20 a 26 Medi.

Thema eleni yw ‘Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni’ sy’n anelu at annog pawb i dynnu ynghyd ac ailgylchu mwy o’r pethau iawn yn amlach. Yn Wrecsam, roedd ein ffigwr ailgylchu y llynedd yn 66.86% (Ebrill 2020-Mawrth 2021), ac ar gyfer chwarter cyntaf eleni (Ebrill 2021-Mehefin 2021) rydym wedi ailgylchu 70.41%.

Mae ailgylchu’n chwarae rôl allweddol mewn taclo newid hinsawdd, ac mae’n beth syml y gall pawb ei wneud i gael effaith go iawn. Rydym yn gwbl gefnogol o hyn yn Wrecsam ac mae gennym ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio ein hunain yn ein hymdrech i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Ailgylchu yw’r norm yng Nghymru erbyn hyn, ac mae mwy na 92% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd fel rhan o’n harferion dyddiol. Rydyn ni’n ailgylchu crafion ffrwythau a llysiau, plisg wyau a gweddillion oddi ar ein platiau yn ein cadis bwyd; rydyn ni’n ailgylchu o bob ystafell yn cynnwys yr ystafell molchi a’r ystafell wely, ac yn ailgylchu eitemau llai amlwg, fel erosolau gwag.

Ond mae angen eich help arnom i gyrraedd rhif un drwy ailgylchu mwy o’r pethau cywir yn fwy aml, gyda’n gilydd.

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dylem fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Mae bron i’n hanner ni yn dal i beidio ailgylchu popeth y gallwn, felly os rydyn ni am helpu Cymru i gyrraedd y brig, mae angen inni fynd gam ymhellach ac ailgylchu mwy fyth. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i gael Cymru i rif un a gwarchod y blaned drwy ailgylchu mwy o’r pethau cywir, bob tro.”

Cam Ymhellach yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni! Bydd Wych. Ailgylcha.

Cynghorion gwych i gael Cymru i rif un

  • Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf i roi hwb fawr i’n cyfradd ailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd, pa bynnag mor fach yw’r tamaid, yn eich cadi gwastraff bwyd i sicrhau y caiff ei gasglu bob wythnos.
  • Nid yw ailgylchu’n darfod ar drothwy’r gegin; cofiwch ailgylchu o ystafelloedd eraill hefyd. Fe fuasech chi’n rhyfeddu faint o wastraff o’r ystafell molchi, fel poteli siampŵ, cyflyrydd gwallt, sebon dwylo a gel cawod gwag y gallwch eu hailgylchu.
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod fod modd ailgylchu poteli dŵr, caniau, a phapur a chardfwrdd, ond cofiwch y gallwch ailgylchu eitemau mwy anarferol fel erosolau gwag hefyd.
  • Gwasgwch eich caniau, potiau a thybiau i arbed lle yn eich bag, bin, bocs neu gadi ailgylchu. Cyn eu hailgylchu, rhowch rinsiad sydyn iddyn nhw pan fyddwch chi’n golchi’r llestri.
  • Os yw Cymru am gyrraedd rhif un, rhaid inni oll chwarae ein rhan. Mae hyn yn golygu rhannu’r Ymgyrch Gwych ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu eich lluniau a’ch syniadau ailgylchu gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha ac #WythnosAilgylchu.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Children's Services Bwrdd Gweithredol Medi 2021 – cip ar y rhaglen
Erthygl nesaf Find my Past Newyddion Llyfrgelloedd – Find My Past

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English