Erthygl gwadd: Byd Dŵr
Diolch o galon i’n haelodau, ein cydweithwyr a’r cyhoedd a ddaeth i Fyd Dŵr Wrecsam a seiclo’n ddi-fwlch am 15 awr i godi £700 y mae galw mawr amdano i Apêl y Groes Goch i Iwcrain.
Darparodd Byd Dŵr yn Wrecsam, sy’n cael ei redeg gan Freedom Leisure mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam , 2 feic “beicio” sbin yn y dderbynfa a gwahoddodd bobl i gymryd rhan am gyfnodau o 15 neu 30 munud.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Eaeth bob un geiniog a godwyd tuag at yr achos haeddiannol yma, a:
- gallai £10 ddarparu pecyn hylendid i deulu o bump, a fydd yn cynnig cyflenwadau i’w cadw’n iach am fis
- gallai £20 ddarparu pum gwrthban i deuluoedd sy’n llochesu
- gallai £33 ddarparu 40 o dabledi clorin i sicrhau bod teuluoedd yn gallu defnyddio dŵr glân a diogel
- gallai £100 ddarparu matiau cysgu i 66 o bobl sydd wedi’u gorfodi i ffoi o’u cartrefi
- gallai £210 ddarparu pecyn cymorth cyntaf llawn, gan gynnwys yr holl gyflenwadau, i swyddog cymorth cyntaf sy’n trin y rhai a anafwyd
Dywedodd Felicity Griffiths, Rheolwr Canolfan Byd Dŵr:
“Rydym yn falch dros ben o holl ymdrechion codi arian ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn ymgyrch ‘Seiclo ar ran Iwcrain’. Cyflawniad gwych a chyfanswm rhagorol i gefnogi bywydau pobl mewn angen. Diolch yn fawr i chi a da iawn chi!”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH