Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beicwyr brwdfrydig yn eisiau – allwch chi fod yn hyfforddwr beicio?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Beicwyr brwdfrydig yn eisiau – allwch chi fod yn hyfforddwr beicio?
Y cyngor

Beicwyr brwdfrydig yn eisiau – allwch chi fod yn hyfforddwr beicio?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 12, 2022 2:47 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Cycling
RHANNU

Mae Learn Cycling yn darparu hyfforddiant beicio mewn ysgolion yn Wrecsam a Sir y Fflint ac maent bellach yn chwilio am bobl frwdfrydig i gyflawni hyfforddiant ac ymuno â nhw i ddarparu eu cyrsiau hyfforddi beicio safonau cenedlaethol.

Maent yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsarïau ar gyfer unigolion lleol i gyflawni Gwobr Lefel 2 mewn Hyfforddi Beicio.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae’r cymhwyster yn golygu un wythnos o ddysgu ymarferol gyda rhai tasgau theori, ac asesiad ar ôl y cwrs unwaith fydd yr hyfforddai wedi darparu sesiynau ar y cyd â hyfforddwyr profiadol am gyfnod o amser.

“Mae gweithio fel hyfforddwr beicio yn hynod o foddhaus”

Dywedodd Mark Jones o Learn Cycling, “Rydym yn falch iawn o’r niferoedd sy’n derbyn hyfforddiant beicio mewn ysgolion yn Wrecsam a Sir y Fflint ers i ni ddechrau gweithio yn yr ardal.  Mae nifer o gyrsiau wedi digwydd eisoes ac rydym wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol yn canmol yr effaith mae’r hyfforddiant yn ei gael.

“Rydym bellach yn chwilio am bobl sy’n caru beicio, yn angerddol am deithio llesol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc, er mwyn ein helpu ni i gyrraedd hyd yn oed fwy o ysgolion yn yr ardal.

“Mae gweithio fel hyfforddwr beicio yn hynod o foddhaus ac mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned.”

Mae Learn Cycling wedi bod yn darparu hyfforddiant beicio safonau cenedlaethol ar ran awdurdodau lleol ers Rhagfyr 2021, gyda grŵp profiadol a chymwys o hyfforddwyr llawrydd yn ymweld ag ysgolion i addysgu disgyblion sut i reoli beic a beicio’n ddiogel ac yn hyderus ar ffyrdd cyhoeddus.

Oes gennych chi ddiddordeb? Beth am fynd i’w gwefan i ddarganfod mwy, neu anfonwch e-bost at admin@learncycling.com.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Freedom Byd Dŵr Wrecsam yn Codi £700 i Elusen
Erthygl nesaf Puppy Beth am roi diwedd ar fridio cŵn bach yn anghyfreithlon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English