Mae cymdeithas masnach y DU ar gyfer Gweithgynhyrchwyr Offer Trydanol Domestig (AMDEA) eisiau codi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut mae cofrestru offer cartref newydd a rhai sydd eisoes yn cael eu defnyddio, yn helpu i gadw eich cartrefi’n ddiogel.
Yn ôl AMDEA, mae cofrestru cynnyrch o’r fath yn golygu ei bod hi’n llawer haws i weithgynhyrchwyr gysylltu â defnyddwyr os bydd angen galw cynnyrch yn ôl, ac mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan Swyddfa Diogelwch a Safon Cynnyrch (OPSS).
Pan fydd gweithgynhyrchwyr yn gallu cysylltu â defnyddwyr sydd wedi’u heffeithio, gallant gymryd camau priodol i adfer y sefyllfa’n gyflym.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
“Beth ddylwn i ei wneud?”
Yn ôl yr OPSS, y prif negeseuon ydi:
• Cofrestru eich holl offer. Bydd nifer o weithgynhyrchwyr yn gadael i chi gofrestru offer cartref sydd hyd at 12 oed gyda nhw. Gellir cofrestru’r mwyafrif o gynnyrch cartref ar wefan registermyappliance.org.uk, yn cynnwys rhai ail law.
• Mae hyn yn cynnwys gwirio a ydi offer bach wedi’u cofrestru. Gall tostwyr a thegellau diffygiol achosi tanau. Cofrestrwch gyda’r gweithgynhyrchwr neu registermyappliance.org.uk i gael hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl, cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
• Landlordiaid, sicrhewch fod eich cynnyrch wedi’u cofrestru yn yr eiddo rydych chi’n berchen arnynt. Gwiriwch bod holl offer y cartref wedi’u cofrestru er mwyn gallu cysylltu â chi’n gyflym os byddant yn cael eu galw yn ôl.
• Gwiriwch fod cynnyrch wedi’u cofrestru mewn llety rhent. Gwiriwch bod y perchennog wedi cofrestru offer y cartref. Os nad ydynt wedi, dylech gofrestru’r cynnyrch eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth ewch draw i wefan gov.uk
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF