Bydd deg parc yn Wrecsam yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol gan yr elusen mannau gwyrdd, Meysydd Chwarae Cymru, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Gweithredol.
Bydd gwarchodaeth Meysydd Chwarae Cymru yn sicrhau bod y parciau’n parhau i gael eu defnyddio at ddibenion hamdden ac yn darparu buddion amgylcheddol am byth! Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i fod yn berchen ac yn rheoli’r mannau hyn.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rwy’n falch bod fy nghyd-gynghorwyr wedi cymeradwyo’r adroddiad a fydd yn gwarchod y parciau hyn rhag unrhyw ddatblygiadau i’r dyfodol ac yn cefnogi ein haddewid i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
“Mae hefyd yn cydnabod y cyfraniadau sylweddol mae parciau gwledig yn eu gwneud i’n cymunedau a lles trigolion sydd bellach yn gallu manteisio arnynt am genedlaethau i ddod.”
Meddai Cadeirydd Pwyllgor Meysydd Chwarae Cymru, Nick Cooke Cwnsler y Frenhines: “Yn ystod y pandemig, rydym wedi sylweddoli pa mor werthfawr yw parciau a mannau gwyrdd i’n hiechyd a’n lles, eto dim ond 6% o barciau ar draws y DU sy’n cael eu gwarchod, ac nid yw’r mynediad atynt wedi’i rannu’n deg.
“Mae’n rhaid i ni hyrwyddo a chefnogi’r mannau gwerthfawr hyn drwy eu gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fedru eu mwynhau. Mae hyn yn hanfodol bwysig, oherwydd unwaith y collir y rhain, byddant wedi’u colli am byth.
“Rydym yn croesawu’r penderfyniad arloesol hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i warchod y mannau gwyrdd hyn er mwyn sicrhau buddion iechyd, lles, cymunedol ac amgylcheddol i drigolion Wrecsam.”
Mae’r deg parc a fydd yn cael eu nodi fel mannau gwyrdd dan y rhaglen ‘Green Spaces for Good’ fel a ganlyn:
- Dyfroedd Alun
- Tŷ Mawr
- Bonc yr Hafod
- Stryt Las
- Melin y Nant
- Dyffryn Moss
- Y Mwynglawdd
- Parc Acton
- Brynkinalt
- Ponciau
Cytunodd y Bwrdd Gweithredol hefyd i dderbyn cynigion pellach ar gyfer y rhaglen ‘Green Spaces for Good’.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL