Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd Prosiect Porth Wrecsam yn elwa o £25 miliwn o gyllid i ailddatblygu’r orsaf rheilffordd a’r hwb trafnidiaeth aml foddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Bydd Prosiect Porth Wrecsam yn elwa o £25 miliwn o gyllid i ailddatblygu’r orsaf rheilffordd a’r hwb trafnidiaeth aml foddol
Pobl a lleY cyngor

Bydd Prosiect Porth Wrecsam yn elwa o £25 miliwn o gyllid i ailddatblygu’r orsaf rheilffordd a’r hwb trafnidiaeth aml foddol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 19, 2021 10:11 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham Gateway
Artists impression
RHANNU

Mae Prosiect Porth Wrecsam yn gynllun sydd werth miliynau, sy’n bwriadu trawsnewid un o brif lwybrau i ganol tref Wrecsam yn derbyn hwb ariannol. Bydd ochr dwyrain o’r ailddatblygiad yn weld ailddatblygiadau helaeth i’r ardal o gwmpas gorsaf Wrecsam Ganolog, yn cynnwys datblygiadau masnachol, ac uwchraddio’r cyfleusterau a mwynderau.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae Cyngor Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Cynghrair Mersi A’r Ddyfrdwy a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ar prosiect Porth Wrecsam i gynllunio ers llynedd, a bydd y prosiect nawr y derbyn hyd at £25 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect Porth aml bartner yn bwriadu adfywio coridor Ffordd yr Wyddgrug – gan greu cludiant bws a rheilffordd gwell, bydd y llwybr i mewn i ganol y dref yn creu argraff gyntaf gwych i ymwelwyr a lleoliad digwyddiadau gwell yn stadiwm y Cae Ras.

Bydd Prosiect Porth Wrecsam yn elwa o £25 miliwn o gyllid i ailddatblygu’r orsaf rheilffordd a’r hwb trafnidiaeth aml foddol
Argraff arlunydd

Symud y darnau gwyddbwyll

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi A’r Ddyfrdwy ac Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Hoffwn roi diolch i Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, Ken Skates AS, Llywodraeth Cymru a’r holl bartneriaid am ei waith called a’u hymdrechion.

“Er nad oes llawer wedi newid ar lawr gwlad eto, rydym wedi bod yn gweithio tu ôl i’r llenni, gan symud y darnau gwyddbwyll yn araf i’w lle, felly rydym mewn safle da i ddechrau gweithio pan rydym yn derbyn y cyllid.

“Mae Wrecsam yn le gwych, ac mae llawer o gyffro ac optimistiaeth… nid ynghylch y clwb pêl-droed a’i berchnogion newydd yn unig, ond am y dref gyfan yn gyffredinol.”

Darnau allweddol o dir

Yn ystod yr haf llynedd, prynodd Llywodraeth Cymru’r hen ystafell arddangos Dickens a’r tir cyfagos. Dan y cynllun, byddai rhan yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad o amgylch Stadiwm y Cae Ras.

Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu hen eiddo Country Stores gyferbyn â gorsaf rheilffordd Wrecsam Ganolog. Bydd y plot yn cael eu ddefnyddio i wella cysylltiadau cludiant, a gallai ddarparu gofod ar gyfer swyddfeydd a chartrefi newydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: “Bydd y £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn hwb enfawr i Wrecsam.Mae’r cynlluniau ar gyfer cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam ac ar gyfer y Cae Ras yn arbennig yn gyffrous iawn.

“Ar y diwrnod y mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn cyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru mae’n bleser gen i gyhoeddi’r cyllid hwn a fydd yn gwella’r system, trafnidiaeth gyhoeddus yn y dref ac o’i hamgylch, gan gynnig gwell profiad i drigolion ac ymwelwyr.

“Mae hi hefyd yn ddiwrnod gwych i gefnogwyr pêl-droed, chwaraeon a digwyddiadau gan y bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflawni gwelliannau sylweddol i stadiwm y Cae Ras.Mae Clwb Wrecsam wedi cael dechrau da i’r flwyddyn yn sgil sicrhau perchenogion newydd ac mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion hyd yn oed mwy positif ar gyfer y clwb hanesyddol hwn.”

Bydd Prosiect Porth Wrecsam yn elwa o £25 miliwn o gyllid i ailddatblygu’r orsaf rheilffordd a’r hwb trafnidiaeth aml foddol
Argraff arlunydd/Artists impression

Arloesi?

Yn ogystal â gwella’r system cludiant cyhoeddus a buddsoddi yn y stadiwm, bydd y prosiect yn gweld gwelliannau eraill yn yr ardal.

Mae gwaith eisoes yn mynd ragddo yng ngorsaf Wrecsam Ganolog ar gyfer gwella seddi, diogelwch a chyfleusterau cymunol.

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam: “Mae’n brosiect mawr a fydd yn cymryd amser i’w gyflawni, ond gallai fod yn arloesol ar gyfer Wrecsam ar ardal ehangach.

“Mae’r bartneriaeth uchelgeisiol ar brosiect Porth Wrecsam yn mynd ochr wrth ochr i’n strategaeth Campws  2025, sydd ar waith yn barod.

“Mae’n bwysig bod y bartneriaeth yn parhau i wthio pethau ymlaen, gan helpu Wrecsam i fod yn le hyd yn oed gwell i fyw, ymweld, gweithio ac astudio.”

<em><a href=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”>???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????</a></em>

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Safonau Gwasanaethau Wrecsam wedi creu holiadur ar y cyd â thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymorth Mae Safonau Gwasanaethau Wrecsam wedi creu holiadur ar y cyd â thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymorth
Erthygl nesaf Nodyn Briffio Covid-19 19.03.21 – Mae’r newyddion yn galonogol ond mae angen i ni gadw golwg ar bethau Nodyn Briffio Covid-19 19.03.21 – Mae’r newyddion yn galonogol ond mae angen i ni gadw golwg ar bethau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English