Ydych chi’n defnyddio meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn aml iawn?
Os felly, bydd gennych ddiddordeb gwybod y bydd dull talu newydd yn dod ar-lein yr wythnos nesaf.
Gosodwyd peiriannau parcio newydd mewn wyth o feysydd parcio Cyngor Wrecsam ar ddiwedd y llynedd, i gyflwyno dulliau newydd o dalu gyda cherdyn, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr dalu gan ddefnyddio cerdyn a phin neu dechnoleg ddigyffwrdd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd system “Talu Dros y Ffôn” newydd, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wneud taliadau dros eu ffonau symudol, yn mynd ar-lein o ddydd Mawrth, 19 Medi.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd defnyddwyr y meysydd parcio yn croesawu’r peiriannau newydd pan gawsant eu gosod ar ddechrau’r flwyddyn, ac mae’r dulliau newydd o dalu â cherdyn a gan ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd wedi gwneud bywyd yn haws i’r rhai sy’n defnyddio’r meysydd parcio.
“Bydd system Talu Dros y Ffôn JustPark yn gwneud pethau’n haws fyth ac rwy’n hapus i gyhoeddi y bydd y system newydd yn fyw o ddydd Mawrth nesaf.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI