Bydd uned brofi dan do ym Mhlas Madog yn darparu profion PCR o ddydd Llun (Ionawr 17)
Ar gael i unrhyw breswylwyr lleol sydd â symptomau
Bydd uned brofi dan do yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Plas Madog er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleuster profi’n cynnig profion PCR i’w harchebu ymlaen llaw rhwng 17 Ionawr a 30 Ionawr yn y neuadd chwaraeon rhwng 9:30am a 4:30pm.
Mae’n rhaid i chi archebu eich prawf ar-lein ymlaen llaw (peidiwch â ffonio’r ganolfan hamdden os gwelwch yn dda).
ARCHEBU EICH PRAWF
Pan fyddwch yn cyrraedd, defnyddiwch y fynedfa i’r neuadd chwaraeon (peidiwch â defnyddio’r brif fynedfa / derbynfa).
Cofiwch … os byddwch yn profi’n bositif ac yn hunan-ynysu, byddwch yn helpu i rwystro’r feirws rhag lledaenu.
Caiff y gwaith yn yr uned brofi ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Wrecsam, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Sblash.
Nodyn briffio Covid-19 – ewch am eich brechiad atgyfnerthu, creu gwrthgyrff, cadw’n ddiogel