Wyt ti’n barod i deithio ar draws y galaeth ar her ddarllen arbennig?
Eleni, mi gei di gyfarfod y Rockets, teulu cŵl iawn sy’n byw ar orsaf loeren yn y gofod ac sydd wrth eu boddau’n mynd i’r llyfrgell leol ar y lleuad!
Ond mae ’na broblem… alli di helpu?
Mae llyfrau wedi dechrau diflannu o Lyfrgell y Lleuad ac fydd dim ar ôl cyn hir. Mae llong ryfedd ar y radar. Efallai mai’r creaduriaid estron direidus sydd wrthi!
Bydd yn barod i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf a helpu’r Rockets ar eu hymgyrch bwysig i achub y llyfrau!
Sut i gymryd rhan…
Er mwyn dechrau arni, bydd angen i ti gael gafael ar ffolder arbennig yr ymgyrch o dy lyfrgell leol o 13 Gorffennaf ymlaen.
I achub y llyfrau a chwblhau’r her, bydd angen i ti ddarllen chwe llyfr (neu fwy!) dros y gwyliau a mynd i’r llyfrgell dair gwaith ar ôl cofrestru – ddwywaith i gasglu dy sticeri ac wedyn, yn y diwedd, dy fedal!
Galli ddarllen unrhyw fath o lyfr, ffeithiol neu ffuglen, a galli wrando ar lyfrau sain hefyd.
Felly, gwisga dy siwt ofod a chymryd un cam mawr i’r llyfrgell yn ystod yr haf!
Mae’r hwyl hefyd ar-lein!
Galli fynd i wefan Sialens Ddarllen yr Haf i gadw golwg ar y llyfrau rwyt ti wedi’u darllen, ysgrifennu adolygiadau am lyfrau a rhoi cynnig ar gystadlaethau.
Eleni yw ugeinfed flwyddyn Her Ddarllen yr Haf, ac mae’n annog plant i fwynhau darllen yn ystod gwyliau hir yr haf, i osgoi’r bwlch darllen dros yr haf.
Rydyn ni’n gwybod bod plant sy’n darllen llyfrau’n aml pan maent yn 10 oed, a mwy nag unwaith yr wythnos pan maent yn 16 oed, yn cael gwell canlyniadau mewn profion mathemateg, geirfa a sillafu pan maent yn 16 oed na’r rhai hynny sy’n darllen yn llai aml.
Felly paid ag aros tan yr haf, dos ati heddiw i lawrlwytho dy e-lyfrau ac e-lyfrau sain. Dos i www.wrecsam.gov.uk/arlein i fynd i’r llyfrgell ar-lein.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN