Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd ysgolion Wrecsam yn trosglwyddo i ddysgu ar-lein ar gyfer diwrnodau olaf y tymor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Bydd ysgolion Wrecsam yn trosglwyddo i ddysgu ar-lein ar gyfer diwrnodau olaf y tymor
Busnes ac addysgY cyngor

Bydd ysgolion Wrecsam yn trosglwyddo i ddysgu ar-lein ar gyfer diwrnodau olaf y tymor

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 11, 2020 9:47 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Online learning
RHANNU

Bydd ysgolion uwchradd ar draws Wrecsam yn trosglwyddo i ddysgu ar-lein ar gyfer yr wythnos nesaf i gyd, a bydd ysgolion cynradd yn gwneud yr un fath ar gyfer deuddydd olaf y tymor.

Cynnwys
  • Mwyfwy heriol
  • Prydau ysgol am ddim

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i nifer gynyddol o staff a disgyblion gael prawf positif neu orfod ynysu, a gobeithio y bydd hyn yn lleihau’r risg y bydd rhaid i deuluoedd ynysu dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r penderfyniad i gau ysgolion uwchradd o ddydd Llun (14 Rhagfyr) wedi’i wneud gan benaethiaid gyda chefnogaeth lawn Cyngor Wrecsam.

Mae penaethiaid ysgolion cynradd a’r cyngor wedi cytuno i gau pob ysgol erbyn dydd Iau nesaf (17 Rhagfyr)…er mae’n bosibl y bydd rhai yn cau’n gynt os bydd angen (rhoddir gwybod i rieni a gofalwyr).

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mwyfwy heriol

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg:

“Mae ysgolion wedi bod yn gweithio’n galed i aros ar agor, ond mae’n fwyfwy heriol oherwydd nifer y staff a’r plant sy’n gorfod hunan-ynysu oherwydd y coronafeirws.

“Rydym hefyd yn ymwybodol bod nifer o rieni yn poeni’n arw am y risg o orfod ynysu dros gyfnod y Nadolig, ac ar ôl blwyddyn mor anodd, mae’n rhaid i ni ystyried lles pobl.

“Bydd cau lleoliadau ychydig o ddyddiau’n gynt a throsglwyddo i ddysgu ar-lein – gydag athrawon yn darparu gwersi o bell – yn rhoi amser mae mawr ei angen i ysgolion, wrth helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach a lleihau’r tebygolrwydd y bydd angen i deuluoedd ynysu dros y gwyliau.”

Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn monitro’r sefyllfa, a’r gobaith gwreiddiol oedd y byddai ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn aros ar agor tan ddiwrnod olaf y tymor (dydd Gwener, 18 Rhagfyr).

Fodd bynnag, mae nifer y staff a’r disgyblion sy’n hunan-ynysu wedi cynyddu’n sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae’r sefyllfa wedi bod yn fwyfwy anodd i benaethiaid.

Vaccines save lives

Meddai’r Cynghorydd Wynn:

“Mae’n bwysig nodi nad yw’r tymor yn gorffen yn gynnar, a bydd disgyblion yn dal i gael gwaith y mae modd iddynt ei wneud gartref yn ystod yr wythnos olaf.

“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ysgolion…ac mae wedi effeithio ar blant, staff, rhieni a gofalwyr.

“Ond byddwn yn parhau i gydweithio, ac mae’r newyddion cadarnhaol am y rhaglen frechu yn y DU yn golygu y gallwn edrych tua’r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.”

Prydau ysgol am ddim

Fodd bynnag, caiff taliadau eu cynyddu i gwmpasu’r diwrnodau y bydd plant oedran uwchradd yn eu treulio’n dysgu gartref yr wythnos nesaf.

Ac oherwydd y bydd safleoedd ysgolion cynradd ar gau ddydd Iau a dydd Gwener nesaf, bydd rhieni a gofalwyr yn cael deuddydd ychwanegol o daliadau ar ben eu taliad ar gyfer y gwyliau.

Os oes gennych unrhyw bryderon am brydau ysgol am ddim, cysylltwch â freeschoolmeals@wrexham.gov.uk

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Defnyddio’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig…cynlluniwch eich ymweliad
Erthygl nesaf Os ydych chi’n masnachu neu’n cludo nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon... Os ydych chi’n masnachu neu’n cludo nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English