Bydd ysgolion ledled Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun nesaf (20 Rhagfyr) i helpu i gadw pawb yn ddiogel wrth nesáu at y Nadolig.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid yn y fwrdeistref sirol ac ar draws y rhan fwyaf o’r DU, gyda nifer o blant a phobl ifanc yn gorfod ynysu.
Hefyd mae posibilrwydd y bydd cadw ysgolion ar agor yr wythnos nesaf yn golygu mwy o bobl yn dal y feirws ac yn gorfod ynysu dros y Nadolig – a fyddai’n cael effaith anferth ar nifer o deuluoedd a chymunedau lleol.
O ganlyniad, gwnaed y penderfyniad i symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun am ddiwrnodau olaf y tymor.
Bydd ysgolion yn darparu dysgu ar y safle i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol ble fo angen, ond gofynnir i rieni ond ddewis hyn os nad oes ganddynt unrhyw ofal plant arall ar gael.
Cyfnodau anodd
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:
“Mae’r cyngor ac ysgolion yn bryderus ynglŷn â’r cynnydd mewn achosion o Covid, a’r effaith posib y gall hyn ei gael ar bobl dros y Nadolig – felly ymddengys yn ddoeth i symud i ddysgu o bell am ddiwrnodau olaf y tymor.
“Rydym yn cydnabod pa mor bryderus yw’r sefyllfa, ac eisiau sicrhau rhieni bod y cyngor ac ysgolion wedi ymrwymo’n llwyr i gynnig y ddarpariaeth ddysgu orau y gallant o dan yr amgylchiadau anodd hyn.
“Gobeithiwn y bydd pawb yn deall pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad hwn a hoffwn ddiolch i rieni a gofalwyr am eu cefnogaeth barhaus.
“Hoffwn hefyd ddiolch i staff yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu profiadau dysgu diogel o safon y tymor hwn – maent wedi gwneud gwaith anhygoel, ac mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein hysgolion cyn gymaint â phosib.”
Mae ysgolion wedi bod yn cysylltu â rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol i’w hysbysu ynglŷn â’r newid i ddysgu ar-lein, a byddwn yn diweddaru rhieni cyn y tymor newydd yn Ionawr.