Bydd angen i drigolion yn Wrecsam ddangos ID ffotograffig i bleidleisio ar Gorffenaf 4. Mae trigolion yn cael eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio trwy wirio bod ganddynt fath o ID a dderbynnir.
Mae mathau o ID a dderbynnir yn cynnwys pasbort neu drwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; a rhai pasys teithio rhatach megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffotograff o hyd.
Gallwch ddod o hyd i’r ffurf fwyaf addas o brawf adnabod â llun yn y fideo hwn:
Bydd unrhyw un nad oes ganddo un o’r mathau o ID a dderbynnir yn gallu gwneud cais am ID am ddim ar-lein drwy cymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk neu drwy lenwi ffurflen bapur. Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher 26 Mehefin 2024 (cyn 5pm).
Mae’r rhestr lawn o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd a manylion am sut i wneud cais am yr ID am ddim, drwy electoralcommission.org.uk/id-pleidleisiwr.
Os ydych angen unrhyw gymorth gyda gwneud cais am ID am ddim neu eisiau gwneud cais am ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm gwasanaethau etholiadol ar e-bost electoral@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292020.
Mae’r rheolau ynghylch darparu pleidleisiau post wedi newid eleni, darllenwch Sut i bleidleisio os na allwch ddod i orsaf bleidleisio? i ddarganfod mwy.