Mae hysbysiadau gwthio (push notifications yn Saesneg) fel trowsus loncian gyda lastig. Weithiau maent yn ddefnyddiol. Weithiau maent yn mynd ar eich nerfau.
Ond os ydych yn hoffi cael gwybod ein straeon diweddaraf, mae gennym newyddion da…
Gallwch rŵan gael hysbysiadau o’r blog hwn os ydych yn defnyddio Chrome, Safari neu Android.
Ei brofi
Os ydych yn cofrestru, byddwch yn cael neges fach i’ch ffôn neu borwr bob tro y byddwn yn ychwanegu erthygl newydd – gyda dolen gyswllt yn ôl i’r stori.
Byddwch yn derbyn hysbysiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac – os byddwch yn cael llond bol – gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg trwy’r gosodiadau ar eich porwr.
Rydym yn ei brofi ar hyn o bryd, ond os nad ydych eisiau colli unrhyw straeon, rhowch gynnig arni.
COFRESTRU I GAEL HYSBYSIADAU