Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn wyliadwrus o Gynigion Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn wyliadwrus o Gynigion Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber
Y cyngor

Byddwch yn wyliadwrus o Gynigion Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 24, 2021 4:23 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Black Friday
RHANNU

Wrth i ni agosáu at ddydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber mae ein Swyddogion Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy’n prynu ar-lein i fod yn ymwybodol o unrhyw beryglon a allai droi yn siomedigaeth neu hyd yn oed yn anniogel.

Llynedd roedd gwerthiant manwerthu ar-lein yn y DU yn £130.6 biliwn, y gwerthiant ar-lein mwyaf erioed! Disgwylir i’r ffigwr barhau i fod yn uchel eleni ond nid yw pob gwerthwr ar-lein yn onest, ac mae llawer yn barod i gymryd eich arian am nwyddau ffug neu eilradd.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Mae llawer o gwmnïau hefyd sy’n cynyddu prisiau cyn Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber er mwyn hawlio eu bod nhw wedi gostwng y pris yn sylweddol. Gallwch wirio tracwyr prisiau drwy ddefnyddio gwefan Camel Camel Camel  neu safle tebyg i wneud yn siŵr eich bod yn cael bargen go iawn.

Mae llawer o bethau eraill y gallwch gadw golwg amdanyn nhw yn arbennig cynigion twyllodrus y bydd cwmnïau diegwyddor yn eu defnyddio.

Dyma rai awgrymiadau syml i’ch cadw chi’n ddiogel:

  • Peidiwch â chael eich denu gan gynigion hysbysebu neu ostyngiadau a rennir ar gyfryngau cymdeithasol – gall y rhain edrych yn ddeniadol, ond yn aml dolen ydyn nhw i wefannau copi, lle gall twyllwyr ddwyn eich manylion.
  • Edrychwch am adolygiadau o’r cynnyrch neu’r adwerthwr/gwerthwr – a gofynnwch i chi eich hun a ydyn nhw’n edrych yn ddilys.
  • A oes llawer o gamgymeriadau sillafu neu ramadegol ar y wefan? Os felly, gallai hynny fod yn awgrym nad yw’r busnes yn cael ei redeg yn broffesiynol.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan y wefan gyfeiriad wedi’i amgryptio – bydd hyn yn dangos os bydd symbol clo clap yn y bar tasgau (lle rydych yn teipio’r cyfeiriad), neu os oes “s” ar ddiwedd rhan “http” y cyfeiriad. Os felly, mae’n golygu bod y wefan yn defnyddio system wedi’i amgryptio, sy’n cadw eich manylion yn ddiogel.
  • Oes gan y cwmni rif llinell dir y gallwch ei ffonio os byddwch yn cael unrhyw broblemau?
  • Darllenwch y print bach – sylwch a oes unrhyw beth yn ymddangos yn rhyfedd, yn ailadroddus neu’n anghywir yn Saesneg.
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan fargen amhosibl – os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, dyma’r achos fel arfer.
  • Cofiwch fod twyllwyr yn ecsbloetio cynnyrch sydd â galw uchel – os bydd siopau’n rhedeg allan o bethau fel teganau a gemau, bydd twyllwyr yn gwerthu fersiynau tebyg o ansawdd gwael.
  • Peidiwch â phrynu mewn panig – gwnewch ychydig o wiriadau synnwyr cyffredin fel y rhai uchod a gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi eich manylion i droseddwr.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Byddem yn annog pawb i gymryd mantais o’r fargen onest a gwerth ei chael ar-lein ond gofynnwn i chi fod yn ofalus a dilyn y gwiriadau syml uchod i wneud yn siŵr eich bod yn cael gwerth am eich arian a ddim yn cael eich siomi.”

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol young carers Cefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr
Erthygl nesaf Peidiwch â chael eich Twyllo gan Dipiwr Anghyfreithlon Peidiwch â chael eich Twyllo gan Dipiwr Anghyfreithlon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dysgu yn Wrecsam
Use this handy tool to read and listen to council news and info in any language
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English