O heddiw ymlaen, bydd ein swyddogion gorfodi yn dechrau cyflwyno dirwyon i unrhyw un sy’n parcio’n anghywir neu’n anghyfreithlon, neu’n camddefnyddio mannau llwytho a gofodau parcio anabl.
Yn ystod y cyfnod clo, mae nifer fechan o yrwyr wedi bod yn parcio fel y mynnent, gan gynnwys ar balmentydd mewn mannau llwytho a gofodau parcio anabl.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Gan nad oedd ein strydoedd yn brysur, nid ydym wedi bod yn ymgymryd â gwaith gorfodi, ac ni ystyriwyd ei fod yn wasanaeth hanfodol ar y pryd. Ond gan fod pobl bellach yn dychwelyd i batrwm mwy arferol (er nad yw’r cyfyngiadau wedi llacio’n llwyr eto) ni allwn ganiatáu i hyn barhau, mae’n rhaid i ni gymryd diogelwch y cyhoedd i ystyriaeth wrth i Wrecsam ddechrau prysuro eto.
Roedd ein swyddogion allan ar y strydoedd yr wythnos diwethaf yn cynnig cyngor i bawb a oedd wedi parcio’n anghywir, ond o heddiw ymlaen, byddwn yn cyflwyno tocynnau parcio a gallwch dderbyn dirwy o hyd at £70.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Cofiwch barcio’n gyfrifol ac o fewn y mannau parcio dynodedig os gwelwch yn dda. Byddwch yn gallu parcio am ddim yn y meysydd parcio a gaiff eu cynnal gan y Cyngor yng nghanol y dref tan ddiwedd fis Medi, felly nid oes unrhyw esgus.”
YMGEISIWCH RŴAN