Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i frwydro yn erbyn tybaco a fêps anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i frwydro yn erbyn tybaco a fêps anghyfreithlon
Y cyngorBusnes ac addysg

Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i frwydro yn erbyn tybaco a fêps anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 22, 2024 11:19 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i frwydro yn erbyn tybaco a fêps anghyfreithlon
RHANNU

Diolch i waith swyddogion gwarchod y cyhoedd yn Wrecsam, mae un siop ddiodydd drwyddedig wedi colli ei thrwydded ac mae siop gyfleus wedi cael gorchymyn cau am 3 mis a roddwyd gan Lys Ynadon Wrecsam.

Rhoddwyd y gorchymyn cau am 3 mis yn erbyn International Minimarket ar 22 Stryt y Brenin yng Nghanol y Ddinas.

Rhoddwyd y gorchymyn yn dilyn cais i’r llys gan swyddogion Safonau Masnach a oedd yn amlinellu cyfres o werthiannau ac atafaeliadau cynhyrchion anghyfreithlon dros y misoedd diwethaf. 

Mae’r gorchymyn yn golygu bod yr eiddo wedi ei gau a’i gloi a bydd yn aros fel hyn tan 16 Hydref. 

Yn dilyn cais gan Safonau Masnach am adolygiad o’r drwydded yn Wrexham Lifestyle ar 106 Ffordd Rhosddu, bu i Is-bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor diddymu eu trwydded alcohol.

Mae’r siop wedi bod yn gysylltiedig â gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon ers amser maith ac mae hefyd wedi bod yn gwerthu alcohol am brisiau is na’r isafswm ar gyfer uned o alcohol. Ym mis Mai eleni, cafodd y deiliad trwydded, Rebaar Mahmood, ei ddyfarnu’n euog am dorri amodau ei drwydded drwy fethu â chael system teledu cylch caeëdig sy’n gweithio yn y siop.  Mae’r siop wedi cau ar hyn o bryd oherwydd gorchymyn cau a roddwyd gan Lys Ynadon Wrecsam ym mis Mai gan gau’r eiddo tan ganol mis Awst.  Mae’r dirymiad yn golygu os bydd y siop yn ail-agor, ni fydd yn gallu gwerthu alcohol.

Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i unrhyw un dan 18 oed

Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco.  Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt.  Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar.  Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.

Er ei fod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco, nid yw defnyddio fêps heb ei risgiau chwaith. Oherwydd hynny, mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau penodol ar fêps tafladwy gydag uchafswm capasiti ac uchafswm cryfder nicotin.  Mae gofynion labelu caeth hefyd. Roedd fêps anghyfreithlon fel y rhai a ddarganfuwyd yn The Vape Shop yn groes i’r cyfyngiadau hyn gan achosi niwed sylweddol posibl i iechyd y bobl oedd yn eu defnyddio.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’r cynnydd cyflym yn nifer y bobl a phlant sydd erioed wedi ysmygu ond sy’n defnyddio fêps yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried deddfwriaeth newydd i fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae gwerthu cynnyrch anghyfreithlon a thanbrisio alcohol yn ein cymuned yn peri pryder penodol ac ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio’r grym cyfreithiol sydd gennym i amddiffyn iechyd a lles ein pobl ifanc.  Rwyf yn croesawu canlyniad y gweithredu hwn gyda’r effaith ymarferol iawn o gau’r eiddo am gyfnod hir.

“Mae’r tarfu hwn yn effeithio nid yn unig ar berchennog y busnes ond hefyd ar berchennog yr eiddo na fydd yn gallu defnyddio na rhentu’r eiddo at unrhyw ddiben am y 3 mis nesaf.  Os ydych chi’n landlord neu asiant eiddo â thenantiaid sy’n torri’r gyfraith fel hyn, dylech fod yn ymwybodol y gellir cymryd camau tebyg sy’n arwain at fethu â defnyddio’r eiddo drwy orchymyn y Llys.”

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Cau siop gyfleustodau â thrwydded Wrexham Lifestyle am 3 mis

Rhannu
Erthygl flaenorol devices stacked on top of each other Mae Adran Dai Wrecsam yn gwella eu Gwasanaethau Digidol
Erthygl nesaf Darganfod Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod – dewch i weld beth sydd ar y gweill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English