Mae EasyCoach bellach ar y ffyrdd yn Wrecsam fel mae ei wasanaethau newydd yn cychwyn.
Mae EasyCoach bellach yn gweithredu pedwar prif wasanaeth. Mae Llwybr 2 yn teithio rhwng Croesoswallt a Wrecsam bum munud o flaen Arriva West Midlands. Yn yr un modd bydd 2D Wrecsam i Gefn-Mawr yn gadael bum munud cyn gwasanaeth 2C Arriva. Gan weithio ar y cyd, bydd llwybrau EasyCoach yn cynnig gwasanaeth o Blas Madoc, drwy Riwabon a Johnstown i Orsaf Fysiau Wrecsam bob 15 munud.
Mae EasyCoach hefyd wedi ailsefydlu’r llwybr rhwng Wrecsam ac Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam ar fws, gan weithredu fel llwybr 42. Yn yr un modd bydd llwybr 44 newydd EasyCoach yn cynnig gwasanaeth o Wrecsam i Lôn Barcas bob 30 munud.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
“Calonogol iawn”
Mae Andrew Martin, sylfaenydd EasyCoach wedi bod yn cadw llygad barcud ar sut mae’r llwybrau newydd yn mynd. Meddai, “Mae’n galonogol iawn gweld cwsmeriaid yn defnyddio’r gwasanaethau newydd ac rydym yn barod i wneud unrhyw newidiadau i’r amserlenni os oes angen. Mae hefyd yn wych clywed bod y ddesg wybodaeth ar gyfer ymwelwyr a chwsmeriaid hefyd yn derbyn dros 300 o ymweliadau y diwrnod ac yn ddefnyddiol iawn.”
“Gwneud rhai gwelliannau”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Ymwelais â’r orsaf fysiau yn ddiweddar ac roeddwn yn falch iawn o weld pa mor brysur oedd hi yno. Byddwn yn gwneud peth gwelliannau dros y misoedd nesaf yn yr ardaloedd seddi ac yn y mynedfeydd ac yn gwybod y bydd defnyddwyr bysiau rheolaidd yn gwerthfawrogi hyn.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB